To Diocesan Home Pages

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Use the login form to access the management functions of the site.

Press Release

Straeon geni’n gosod crefydd wrth galon gwleidyddiaeth

Efallai mai asynnod anwes, doethion yn ei dillad Gucci a hyd yn oed ambell i ysgewyllen neu gracyr Nadolig oedd yn serennu yn nifer o ddramâu geni ein hysgolion ni eleni, ond chwyldro ac nid rhamant sy’n cael ei amlygu yn y straeon geni gwreiddiol.

Yn ei bregeth Nadolig yn Eglwys Gadeiriol Llandaf heddiw, dywedodd Archesgob Cymru, y Dr Barry Morgan, bod fersiynau clyd, sentimental o stori’r geni wedi peri i ni golli golwg ar rym go iawn ac arwyddocâd gwleidyddol geni Iesu.
Ysgrifennodd awduron yr Efengylau’r straeon, meddai, wedi marwolaeth Iesu er mwyn gosod ar gof a chadw pwy oedd Ef go iawn – Brenin yr Iddewon.  Ac roedd hynny’n ddatganiad radical go iawn sy’n parhau i herio’r ffordd yr ydym yn byw heddiw, ac sy’n golygu na allwn wahanu crefydd a gwleidyddiaeth.

Meddai Dr Morgan, “Yr hyn yr oedd y Cristnogion cynnar yn ei ddweud oedd mai Iesu oedd eu Harglwydd, nid Cesar, a bod yr Iesu hwn yn cyfranogi o rym ac awdurdod Duw.  Teimlai’r Cristnogion cynnar mai’r teitl “Arglwydd” oedd yr unig enw addas ar gyfer Iesu. Dychmygwch beth fyddai ymateb awdurdodau Rhufain i hynny. Roedd Cesar yn Arglwydd drwy goncwest a gormes a thrais. Roedd Iesu yn Arglwydd am Iddo ddod er mwyn dwyn cyfiawnder a didreisedd i’r ddaear. 

“Felly mae mwy i’r straeon geni hyn nag sydd i’w weld ar yr wyneb. Maen nhw’n datgan Arglwyddiaeth Iesu a theyrnasiad Duw uwchlaw ac yn erbyn llywodraethwyr y byd hwn – naw wfft i gadw crefydd a gwleidyddiaeth ar wahân.”

Mae straeon y geni, meddai Dr Morgan, yn parhau i herio pob un ohonom o ran ein safiad ni heddiw.

“Ystyr cyhoeddi Iesu yn Arglwydd yw cyhoeddi mai Ef sy’n dangos ffordd Duw gyda’i fyd Ef, a’r cwestiwn maen nhw’n eu gosod i ni, fel unigolion, fel eglwys ac fel cenhedloedd yw hyn - sut ydym ni’n defnyddio grym a dylanwad, boed yn filwrol, yn wleidyddol neu’n economaidd? Ble rydym ni’n sefyll? A ydym ni gyda Herod a Chesar a lywodraethodd drwy dra-arglwyddiaethu a chodi ofn a brawychu, neu a ydyn ni gydag Iesu sy’n llywodraethu mewn ffordd wahanol drwy gyfiawnder, heddwch a didreisedd?

“Ystyr dweud bod Iesu yn Arglwydd yw ymuno ag Ef yn Ei frwydr yn erbyn popeth ac unrhyw beth sy’n dad-ddyneiddio ac yn iselhau bodau dynol. Ystyr cydnabod Arglwyddiaeth Iesu yw helpu Duw i sicrhau teyrnasiad Duw ar y ddaear fel yn y nefoedd – byd o gyfiawnder, o heddwch ac o gynaliadwyedd. Mae’r rhain yn bethau go chwyldroadol – ac wrth i ni ddod i addoli wrth y preseb yna, mae angen i ni sylweddoli i beth yn union yr ydym ni’n ymrwymo.” 

Mae testun llawn y bregeth isod. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Anna Morrell
Archbishop's Media Officer / Swyddog y Cyfryngau i'r Archesgob
Tel: 02920 348208; mobile: 07 91 91 587 94
39 Cathedral Rd, Cardiff / 39 Heol y Gadeirlan, Caerdydd
CF11 9XF
http://www.churchinwales.org.uk
http://www.eglwysyngnghymru.org.uk


Pregeth Ddydd Nadolig 2009
Archesgob Cymru


 Aeth e erioed ar goll o’r blaen, er mai dim ond rhyw fodfedd a hanner o hyd oedd e, ond doedd dim golwg ohono fe yn unman. Edrychon ni ymhobman - ar y llawr, ymhlith y llanast Nadoligaidd, ar bob silff, ond heb os roedd y baban Iesu ar goll. Roedd hi braidd yn anodd cael gafael ar un arall hefyd gan fod hwn yn un bychan pren a naddwyd â llaw a fu gyda ni am flynyddoedd ar ôl ei brynu ym Methlehem, a byddai’n od ar y naw i gael y stabl adeg Nadolig gyda phawb y tu fewn iddo ac o’i gwmpas, ond heb y prif gymeriad. Ac yna fe ddaeth i’r golwg.

 Roedd ein hwyres fach ddwy a hanner oed, fel oedd hi bryd hynny, wedi’i gipio o’i breseb a mynd ag e adref i Fryste gyda hi. Mae hi wrth ei bodd gyda gwrthrychau bychan ac roedd wedi’i swyno gymaint gan stori’r Nadolig, ei bod wedi penderfynu herwgipio’r baban Iesu. Daeth ei mam o hyd iddo drwy hap a damwain llwyr ar waelod poced cot Nanci adeg y Pasg diwethaf – bydd angen i ni gadw llygad barcud ar y preseb yr wythnos hon heb os!   

 Ond wrth gwrs, pan feddyliwch chi am y peth, mae pob un ohonom ni yn euog ar brydiau o gymryd meddiant o Iesu a’i wneud Ef yn ein delwedd ein hunain, ac mae hynny’n arbennig o wir adeg y Nadolig. Rydym yn dwlu ar enedigaethau newydd ac felly rydym yn cael ein swyno gan enedigaeth Iesu, ac yn methu â sylweddoli am beth y mae’r straeon geni hyn go iawn. Rydym yn dueddol o’u rhamanteiddio a’u sentementaleiddio nhw, a’u llenwi nhw gyda’r hyn sydd i ni yn fanylion coll - anifeiliaid yn sefyllian o amgylch y preseb, baban difrycheulyd, mam wridog sy’n edrych fel petai newydd ddod oddi ar set ffilm, ac os ydych chi’n rhiant, yn fam-gu neu’n dad-cu, ac yn mynd i ddrama geni’r ysgol, fe gewch chi hi’n anodd cysylltu’r hyn a welwch chi ar y llwyfan gydag adroddiadau go iawn yr Efengylau ar enedigaeth Iesu.  

 Mewn gwirionedd, wrth gwrs, Efengylau Sant Mathew a Sant Luc yn unig sy’n cofnodi’r straeon geni. Does dim byd o gwbl yn Efengyl Marc na Ioan a dim ond 31adnod sydd gan Mathew. Nid yw stori’r enedigaeth ei hun yn Mathew, dim cadachau, dim stabl, dim preseb, dim bugeiliaid nac angylion; dim ond yn Luc mae hynny i gyd i’w ganfod. Mewn gwirionedd, does dim taith i Fethlehem yn Mathew chwaith gan fod y Teulu Sanctaidd eisoes yn byw ym Methlehem yn ôl Sant Mathew. Mae Mathew ond yn dweud wrthym ni am ddyfodiad y Doethion a’r ffoi i’r Aifft o fachau Herod. Sant Luc yw’r un sy’n llenwi’r manylion eraill mewn 132 o adnodau a dim ond yn ei Efengyl ef y mae’r bugeiliaid a’r angylion yn ymddangos.    

 Felly nid un stori’r Nadolig sydd, ond dwy stori, ac maen nhw’n wahanol a dyna’r pwynt – cafodd y ddwy Efengyl eu hysgrifennu nid er mwyn ein gwneud ni’n ddwl dros y baban Iesu ond er mwyn dweud wrthym ni pwy yw Ef go iawn a beth yw ystyr Ei eni go iawn.

 Dywedais i gynnau i ni ddod o hyd i’r baban Iesu adeg y Pasg ac mae arwyddocâd symbolaidd i hynny hefyd, oherwydd nid y straeon Nadolig oedd y cyntaf i’w hysgrifennu am Iesu, er eu bod yn ymddangos ar ddechrau’r Efengylau. Y straeon cyntaf i’w hysgrifennu amdano Ef oedd y rhai am Ei Ddioddefaint, Ei Farwolaeth a’I Atgyfodiad. Ysgrifennwyd y straeon Nadolig am fod y Cristnogion cyntaf yn credu bod Iesu wedi’i godi o farw’n fyw ac fe newidiodd hynny bopeth iddyn nhw. 

 Ysgrifennodd Mathew a Luc y straeon geni am eu bod yn credu bod Iesu’n fyw ac yn Arglwydd, ac fe’u hysgrifennwyd nid er mwyn rhoi gwybodaeth ffeithiol i ni am yr enedigaeth, ond i ddweud wrthym ni am arwyddocâd Iesu. Oherwydd maen nhw’n gwneud honiadau beiddgar amdano. Iesu yw Brenin yr Iddewon. Dychmygwch sut y byddai Herod, a oedd yn dal y teitl hwnnw, wedi teimlo am hynny. 

Mae stori Mathew yn dweud wrthym fod Herod wedi sicrhau lladd yr holl fechgyn Iddewig am nad oedd e eisiau unrhyw gystadleuwyr ac mae hynny’n arwydd o’r gwrthgyferbyniad rhwng syniad Herod o frenhiniaeth a syniad Iesu, oherwydd wrth i’r Efengyl ddatblygu, rydym yn sylweddoli bod arglwyddiaeth Iesu yn un o wasanaeth a breuder a chariad, yn groes i drais a gormes a therfysg Herod. “Iesu felly,” medd Sant Mathew, “yw Brenin go iawn yr Iddewon.” 

 Mae’r straeon hyn hefyd yn datgan bod Iesu yn Arglwydd, “kyrios” yn yr iaith Roeg, ond dyna oedd teitl safonol a swyddogol yr Ymerawdwr Rhufeinig. Ac er mai Ymerawdwyr marw’n unig ar un adeg fyddai’n cael eu galw’n Arglwydd, sef yn ddwyfol, yn raddol daethpwyd i weld Ymerawdwyr byw yn Arglwyddi neu’n Dduwiau. Codwyd temlau iddyn nhw a phrawf ar deyrngarwch i ddinesydd yr Ymerodraeth oedd a allai pobl ddweud bod “Cesar yn Arglwydd”. Ond yn fersiwn Roegaidd yr Hen Destament, y Septuagint, defnyddiwyd y gair “kyrios” i gyfieithu’r gair am Dduw, “Yaweh”. Mewn geiriau eraill, i Iddewon a siaradai’r iaith Roeg, roedd y gair “kyrios” yn cyfateb i enw Duw. Felly roedd Iesu yn Arglwydd. 

O ganlyniad, oherwydd y gred hon, gwrthodai’r Cristnogion cynnar dalu gwrogaeth i Gesar. Gan fod Iesu yn Arglwydd, nid oedden nhw am gydnabod arglwyddiaeth Cesar. Roedden nhw’n wynebu marwolaeth wrth gwrs wrth alw rhywun heblaw am Gesar yn “Arglwydd” ac roedd yn feiddgar hefyd, gan eu bod yn rhoi’r teitl yma, “Arglwydd”, i ddyn a oedd wedi’i groeshoelio o dan orchymyn diamwys y grym Rhufeinig a oedd yn meddiannu Jwdea ar y pryd.  

Roedd Iesu’n ffigwr o dan warth, yn ddinesydd wedi’i ddiarddel, yn wrthodedig. Roedd croeshoelio wedi’i gadw ar gyfer gwehilion cymdeithas. Nid oedd y Rhufeiniaid yn croeshoelio’u pobl eu hunain, roedden nhw ond yn croeshoelio’r drwgweithredwyr o’r dosbarth isaf – rebeliaid, troseddwyr, caethweision. Ac eto roedd pobl yn barod i godi ar eu traed a chyffesu bod Iesu yn Arglwydd. 

Yr hyn yr oedd y Cristnogion cynnar yn ei ddweud oedd mai Iesu oedd eu Harglwydd, nid Cesar, a bod yr Iesu hwn yn cyfranogi o rym ac awdurdod Duw.  Teimlai’r Cristnogion cynnar mai’r teitl “Arglwydd” oedd yr unig enw addas ar gyfer Iesu. Dychmygwch beth fyddai ymateb awdurdodau Rhufain i hynny. Roedd Cesar yn Arglwydd drwy goncwest a gormes a thrais. Roedd Iesu yn Arglwydd am Iddo ddod er mwyn dwyn cyfiawnder a didreisedd i’r ddaear.

Felly mae mwy i’r straeon geni hyn nag sydd i’w weld ar yr wyneb. Maen nhw’n datgan Arglwyddiaeth Iesu a theyrnasiad Duw uwchlaw ac yn erbyn llywodraethwyr y byd hwn – naw wfft i gadw crefydd a gwleidyddiaeth ar wahân.

Ystyr cyhoeddi Iesu yn Arglwydd yw cyhoeddi mai Ef sy’n dangos ffordd Duw gyda’i fyd Ef, a’r cwestiwn maen nhw’n eu gosod i ni, fel unigolion, fel eglwys ac fel cenhedloedd yw hyn - sut ydym ni’n defnyddio grym a dylanwad, boed yn filwrol, yn wleidyddol neu’n economaidd? Ble rydym ni’n sefyll? A ydym ni gyda Herod a Chesar a lywodraethodd drwy dra-arglwyddiaethu a chodi ofn a brawychu, neu a ydym ni gydag Iesu sy’n llywodraethu mewn ffordd wahanol drwy gyfiawnder, heddwch a didreisedd?

Mae bod yn ddisgybl i Iesu yn golygu ymwneud a’i fath Ef o Arglwyddiaeth o olchi traed ei ddisgyblion. Mae dweud bod Iesu yn Arglwydd yn golygu cydnabod ei lywodraeth ond mae hefyd yn golygu dilyn yn ei ffordd Ef o wasanaeth, o gariad ac o dosturi. Mae’n golygu cael ein trawsnewid fel unigolion ac fel eglwys i’w lun Ef.

Ystyr dweud bod Iesu yn Arglwydd yw ymuno ag Ef yn Ei frwydr yn erbyn popeth sy’n dad-ddyneiddio ac yn iselhau bodau dynol. Ystyr cydnabod Arglwyddiaeth Iesu yw helpu Duw i sicrhau teyrnasiad Duw ar y ddaear fel yn y nefoedd – byd o gyfiawnder, o heddwch ac o gynaliadwyedd. Mae’r rhain yn bethau go chwyldroadol – ac wrth i ni ddod i addoli wrth y preseb yna, mae angen i ni sylweddoli i beth yn union yr ydym ni’n ymrwymo. 

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag:
Anna Morrell
Swyddog y Cyfryngau i'r Archesgob / Archbishop's Media Officer 
Tel: 02920 348208; mobeil: 07 91 91 587 94
39 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9XF / 39 Cathedral Rd, Cardiff  CF11 9XF
http://www.churchinwales.org.uk
http://www.eglwysyngnghymru.org.uk

 

 

 


 

Entered By Anna Morrell on Friday 25th of December 2009

Anna Morrell, Archbishop’s Media Officer
Church in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF

Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794