Press Release
Neges Nadolig - Yr Archesgob Cymru
Ddr Barry Morgan
Ar adeg y Nadolig, bydd llawer o elusennau yn ceisio cael ein cefnogaeth, a bydd y llif o lythyrau sy’n erfyn arnom am arian yn codi’n ddramatig am fod y trefnwyr sydd ganddynt yn sylweddoli bod pobl yn fwy hael ar adeg y Nadolig nag ar unrhyw amser arall yn y flwyddyn. Bydd pobl yn fwy bodlon i fynd yn ddyfnach i’w pocedi ac yng ngwledydd Prydain yn unig codir miliynau o bunnau yn y tymor hwn at bob mathau o achosion da.
Mae hyn oll yn adlewyrchu’r ffaith fod ein gwlad, a’n byd hefyd, yn llawn pobl sy’n poeni’n wirioneddol am gyfyngder eraill sy’n llai ffodus na hwy’u hunain, ac sy’n fodlon troi’r pryder hwnnw yn weithredu. Weithiau mae hi’n hawdd anghofio mewn byd sy’n ymddangos mor greulon a gwaedlyd, lle gwelwn gymaint o drais a chlywed amdano – a hwnnw’n aml yn erbyn pobl na allant eu hamddiffyn eu hunain – fod yna yn ein byd hefyd filiynau o bobl sydd yn pryderu dros eraill. Pan geir trychineb, boed hynny dramor neu yn ein gwlad ein hunain, ymateb greddfol y rhan fwyaf o bobl yw bod arnynt eisiau gwneud rhywbeth i helpu. Mae yna rywbeth yn ein gwneuthuriad, fel bodau dynol, sydd rywsut yn ein gorfodi at drugaredd.
Mae’n beth rhyfedd felly fod ein byd ni’n ei chael hi mor anodd i dderbyn bod cymeriad Duw hefyd yn un llawn cariad a thrugaredd at y rhai sy’n dioddef, neu sydd mewn angen o unrhyw fath. Ac eto calon yr Efengyl, a neges ganolog y Nadolig yw, yn wyneb cymaint o ddrygioni a chasineb, fod Duw yn Iesu yn sicrhau Ei fyd Ef ei fod Ef yn gofalu amdano ac yn ei garu ac felly yn mynd ato i’w gofleidio’n gariadus a hyd yn oed yn fodlon marw drosto. Mae’n rhyfedd bod pobl yn ei chael hi’n berffaith naturiol i fodau dynol fod yn llawn gofal a thrugaredd, ond na allant ddirnad yn iawn y gall yr un peth fod yn wir am Dduw. Eto cred Cristnogion ein bod yn gallu dangos cariad yn union oherwydd i ni gael ein gwneud ar ddelw Duw. Nid mater o fod Duw mor drugarog â ni mohoni. Wedi ein creu ganddo Ef rydym ni’n adlewyrchu trugaredd Duw am mai ni yw Ei feibion a’i ferched Ef.
Mae hi’n andros o anodd rhoi hyn oll mewn geiriau, ac mae Mathew a Luc yn ymdrechu i gyfleu’r gwirionedd hwn drwy eu straeon am eni’r Iesu ac am ymwneud Duw yn y byd drwyddo Ef. Mae Ioan, awdur y bedwaredd Efengyl, yn osgoi’r dull hwnnw heb ddim ond yn dweud yn syml “y gair a wnaethpwyd yn gnawd ac a drigodd yn ein plith”. “Cariad yw natur ac union enw Duw”, meddai un o’r beirdd. “Mae calon yr Hollalluog mor rhyfeddol o garedig” meddai emynydd arall. Ac yn union herwydd mai felly y mae Duw a’n bod ninnau wedi ein gwneud ar Ei ddelw, ein bod ninnau hefyd, yn ein heiliadau gorau, yn sylweddoli mai drwy garu a gofalu y mae dilyn graen y ffordd y mae’r bydysawd wedi ei wneud.
Hollalluog Dduw, sydd yn gwneud popeth yn newydd ac yn llawn trugaredd a gras, trawsffurfia ni drwy dy Ysbryd fel y gallwn ninnau hefyd ofalu am dy fyd a’i garu. Gofynnwn hyn yn enw Iesu Grist ein Ceidwad. Amen.
Y Parchedicaf Ddr Barry Morgan
Archesgob Cymru ac Esgob Llandaf
Entered By Anna Morrell on Wednesday 23rd of December 2009
Anna Morrell, Archbishop’s Media OfficerChurch in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF
Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794

