To Diocesan Home Pages

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Use the login form to access the management functions of the site.

Press Release

Er mwyn y bobl rhaid i’r gwleidyddion gymryd cyngor y Confensiwn – yr Archesgob

Sir Emyr Jones Parry, chair of the All Wales Convention

Sir Emyr Jones Parry, chair of the All Wales Convention

Yn dilyn cyhoeddi argymhellion Confensiwn Cymru yr wythnos hon dywedodd Archesgob Cymru y dylai arweinwyr gwleidyddol Cymru ymrwymo i wneud yr argymhellion hynny yn realiti.


Argymhella’r Confensiwn, a gadeirir gan Syr Emyr Jones-Parry, gynnal refferendwm ar bwerau deddfu llawn i Gymru.


Canmolodd y Dr Barry Morgan drylwyredd yr adroddiad, sy’n archwilio tystiolaethau oddi wrth bobl ledled Cymru, a dywedodd: ‘Yn dilyn astudio ac ymgynghori manwl, daeth Confensiwn Cymru i’r casgliad fod achos llethol dros wneud y Cynulliad Cenedlaethol yn Senedd yng ngwir ystyr y gair trwy roi iddo bwerau deddfu llawn. Ers 1997 dangosodd esiampl Senedd yr Alban y fantais aruthrol o gael set eglur o bwerau, gyda chyfrifoldebau San Steffan a’r Alban wedi’u diffinio’n fanwl.


‘Byddai rhoi i’r Cynulliad bwerau deddfu llawn yn cryfhau democratiaeth yng Nghymru ac yn rhoi inni gyfundrefn sefydlog ac effeithiol o lywodraethu. Gallem wedyn symud ymlaen i daclo anghenion pobl a chymunedau Cymru trwy ddatblygu polisïau ymarferol ac unigryw Gymreig a’u gweithredu’n effeithiol, heb fod yn gaeth i broses gymhleth a llawn rhwystredigaethau o drosglwyddo pwerau.
 

‘Credaf fod cenedligrwydd a threftadaeth Cymru yn rhoddion oddi wrth Dduw y dylem lawenhau ynddynt ac a gyfoethogid gyda mwy o ymreolaeth. Ar yr un pryd, mae’r rhoddion hyn, ein nodweddion unigryw ein hunain, yn rhoddion nid yn unig i ni ond er cyfoethogi dynolryw.’
 

Entered By Anna Morrell on Thursday 19th of November 2009

Anna Morrell, Archbishop’s Media Officer
Church in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF

Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794