Press Release
Ethol Esgob newydd Bangor – 7 Hydref
Bydd drysau Cadeirlan Bangor ar gau ar 7 Hydref wrth i esgob newydd yr Eglwys yng Nghymru gael ei ethol.
Y tu mewn bydd “coleg” o 46 o bobl, yn cynnwys y pedwar esgob arall yng Nghymru, yn enwebu a phleidleisio ar ymgeiswyr, am hyd at dridiau.
Unwaith y gwneir penderfyniad, bydd Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, yn datgloi ac agor drws gorllewinol y gadeirlan a chyhoeddi enw’r Darpar Esgob.
Mae’r etholiad yn dilyn marwolaeth y Gwir Barchedig Anthony Crockett ym mis Mehefin. Bu ef yn esgob yr esgobaeth er 2004. Yr esgob newydd fydd yr unfed esgob a phedwar ugain ym Mangor, a bydd yn gwasanaethu ardal yng ngogledd orllewin Cymru yn ymestyn o Gaergybi I Lanidloes.
Mae’r Coleg Etholiadol yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r chwe etholaeth yng Nghymru. Cynrychiolir yr esgobaeth “gartref” gan chwech o leygwyr a chwech o glerigwyr, a’r pum esgobaeth arall gan dri o leygwyr a thri o glerigwyr yr un, ynghyd â’r pedwar Esgob arall.
Mae trafodaethau’r Coleg Etholiadol yn gyfrinachol. Caiff yr ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad eu henwebu yn y cyfarfod, eu trafod a chynhelir pleidlais. Caiff unrhyw ymgeisydd sy’n derbyn dau-draean pleidleisiau’r rhai sy’n bresennol ei ddatgan yn Ddarpar Esgob. Fel arall, mae’r Coleg yn dychwelyd i’r cam enwebu a’r cylch yn dechrau o’r newydd. Yn draddodiadol, mae Esgob Bangor yn medru’r Gymraeg.
Gall y Coleg gwrdd am hyd at dridiau yn olynol er mwyn dod i benderfyniad; os yw’n methu gwneud hynny o fewn yr amserlen hon bydd y penderfyniad yn symud i’r Fainc Esgobion. Unwaith yr etholir esgob, bydd ganddo hyd at 28 diwrnod i dderbyn y swydd.
Bydd y cyfarfod ar 7 Hydref yn dechrau gyda dathlu’r Cymun Sanctaidd yn y gadeirlan gyda chroeso i bawb am 10.30yb. Bydd y Coleg Etholiadol yn cwrdd yn breifat a bydd y Gadeirlan ar glo.
Bydd cyfle i dynnu ffotograffau neu ffilmio aelodau o’r Coleg Etholiadol yn dod i mewn i’r gadeirlan a chloi drws ar ddiwedd y Cymun Sanctaidd.
Unwaith yr etholir yr esgob newydd, cynhelir cynhadledd i’r wasg i roi cyfle ar gyfer cyfweliadau.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Entered By Anna Morrell on Wednesday 01st of October 2008
Anna Morrell, Archbishop’s Media OfficerChurch in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF
Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794

