To Diocesan Home Pages

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Use the login form to access the management functions of the site.

Press Release

Marw Esgob Bangor

Yn yr ysbyty y bore yma, yn dilyn brwydr o ddeunaw mis yn erbyn y cancr, bu farw Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Anthony Crockett. Yr oedd yn 62 mlwydd oed.


Bu’n Esgob Bangor er 2004.


Talodd Archesgob Cymru, y Dr Barry Morgan, deyrnged i’r dewrder a’r ffydd a ddangosodd gydol ei weinidogaeth.

“Yn y pum mlynedd fer y bu’r Esgob Tony ym Mangor,” meddai, “fe’i hanwylodd ei hun i’r esgobaeth, a gwnaeth ei farc arni. Yr oedd yn ŵr rhadlon a di-flewyn-ar-dafod, nad oedd arno ofn mynegi ei weledigaeth, ond a oedd, serch hynny, â chalon fugeiliol gynnes, ac a âi allan o’i ffordd i gynorthwyo pawb.


 “Wynebodd ei waeledd olaf gyda gwytnwch, ffydd a gobaith. Cryfhawyd ac ysbrydolwyd eraill gan ei ddewrder aruthrol a’i ffydd. Bu’n gweinidogaethu hyd yn oed yn ei wendid. Parhaodd i weithio yn yr ysbyty, gan gynnwys cynnal bedydd esgob yno, ac nid oedd arno ofn dangos ei wendid a’i freuder. Bydd colled fawr ar ei ol”.


Talwyd teyrnged hefyd gan Ddeon Llandaf, y Tra Pharchedig John Lewis. “Yr oedd Tony,” meddai, “yn gyfaill da ac yn gwmnïwr ardderchog. Yr oedd ei fywyd a’i weinidogaeth yn wir daith y pererin a chaniataodd i eraill rannu’r daith honno ag ef. Yr oedd yn graff a gonest ynglŷn â’r presennol ac yn llawn ysbrydoliaeth a chefnogaeth ynglŷn â’r dyfodol. Byddwn yn gweld ei eisiau”.


Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chyn-aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, “Daeth yr Esgob Tony ag arweiniad bugeiliol mawr i esgobaeth sydd mor ddaearyddol eang. Yr oedd mor ymroddedig fel y parhaodd i weithio hyd yn oed yn ei hir waeledd. Y tro diwethaf imi ei glywed yn pregethu – yn Gymraeg a Saesneg – oedd ar Ddydd y Pasg yn Eglwys Gadeiriol Bangor, ac fe ddaeth yno er ei fod mor wael. Yr oedd yn ŵr carismataidd. Bydd yr Eglwys yng Nghymru a minnau yn gweld ei eisiau’n fawr”.

Dywedodd Ei Anrhydedd Philip Price CF, cadeirydd Pwyllgor Sefydlog Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru: “Y mae marw’r Esgob Tony yn golled fawr i fywyd crefyddol y genedl. Bu’n meddwl yn ddwfn am weinidogaeth yr eglwys a’r holl saint, ac fe’i mynegodd ei hun yn glir a chadarn wrth bregethu ac ysgrifennu. Perthynai i’w ysgolheictod ddealltwriaeth fugeiliol fawr, a gweithiodd yn ddiarbed dros yr esgobaeth a’r dalaith. Bu ei ddewrder yn ystod ei hir waeledd yn ysbrydoliaeth. Yn bersonol, byddwn yn rhyfeddu ei fod, gydol yr amser, yn gallu cadw ei ofal am eraill ym mlaen ei feddwl”.


Etholwyd Anthony Crockett yn bedwar ugeinfed Esgob Bangor yn 2004. Cyn hynny bu’n Archddiacon Caerfyrddin ac yn beriglor tair eglwys wledig yng ngorllewin Cymru. Yr oedd yn Gymro Cymraeg ac yn frodor o Bontypridd. Graddiodd yn y Clasuron ac mewn Diwinyddiaeth o Goleg y Brenin, Llundain, a chwblhau ei hyfforddiant cyn-ordeinio yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1973 ac yn offeiriad yn 1972, a bu’n gurad yn Aberdâr ac yn yr Eglwys Newydd yn Esgobaeth Llandaf cyn mynd yn offeiriad plwyf i gefn gwlad Ceredigion o 1978 hyd 1986. Yn ystod y cyfnod hwn bu’n Gaplan Arholi i Esgob Tyddewi ac yn Ysgrifennydd Bwrdd Dethol Ymgeiswyr y Dalaith. O 1986 hyd 1991 bu’n Rheithor Dowlais, ac o 1991 hyd 1999 yn Ysgrifennydd Bwrdd Cenhadu’r Eglwys yng Nghymru. Yn 1999 fe’i penodwyd yn Archddiacon Caerfyrddin.
Yr oedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn pererindota. Yn ystod cyfnod sabathol yn 1995 fe gerddodd 1,000 o filltiroedd o Le Puy i Santiago de Compostela. Yn ddiweddar, ef a ysgogodd y drydedd bererindod swyddogol erioed i Ynys Enlli oddi ar benrhyn Llŷn. Cynhaliwyd y bererindod ar 21 Mehefin, ond yr oedd ef yn rhy wael i gymryd rhan ynddi.


Yr oedd hefyd yn cefnogi’n frwd ordeinio merched yn offeiriaid ac yn esgobion.


Gedy wraig, Y Parchedig Caroline Owen, a thri phlentyn, Kate, Thomas ac Elizabeth.

 

DATGANIAD AR FARWOLAETH
ESGOB BANGOR
Y GWIR BARCHEDIG ANTHONY CROCKETT

gan

Y Tra Pharchedig Alun Hawkins, Deon Bangor
Yr Hybarch Meurig Llwyd Williams, Archddiacon Bangor
Yr Hybarch Emyr Wyn Rowlands, Archddiacon Meirionnydd
Ms Stella Schultz, Ysgrifennydd yr Esgobaeth


Mae’r newydd am farwolaeth Anthony, ein Hesgob, yn ergyd drom i bawb ohonom. Ers bron i bedair blynedd mae wedi gwasanaethu yr Esgobaeth hon gyda’i gyfuniad unigryw o urddas a llawenydd. Yn ystod y cyfnod byr hwn rhoddodd i’r Eglwys yn y rhan hon o Gymru hyder o’r newydd yn ei chenhadaeth. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i addolwyr rheolaidd, i’r rhai hynny sydd yn edrych tuag at yr Eglwys am gefnogaeth ac arweiniad, ac, yn bennaf oll, i’w offeiriaid sydd yn gwasanaethu plwyfi a chymunedau’r Esgobaeth hon. Er fod yr amser a fu yn ein plith yn ymddangos yn greulon o fyr, mae ei weinidogaeth fel ein Hesgob wedi bod yn ddi-fesur o ffrwythlon a chreodd argraff ddofn a fydd yn ein cynnal ymhell i’r dyfodol. Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio wynebodd ei salwch gyda dewrder a phenderfyniad, gyda ffydd ac ymddiriedaeth diwyro yn Nuw a chonsyrn diarbed am offeiriaid a phobl yr Esgobaeth. Yn ein Hesgob cawsom rodd unigryw gan Dduw: gŵr â gweledigaeth, ynni a doethineb. Dim ond testun diolch sydd yn ein calonnau am y cyfan a roddodd i ni.

Y mae ein pryder yn y lle cyntaf am Caroline a’r teulu, Kate, Tomos ac Elizabeth, sydd yn teimlo absenoldeb gŵr a thad yr oeddent yn ei garu gymaint. Yr ydym am eu sicrhau nid yn unig o’n cariad a’n gweddiau ar yr adeg yma o dorcalon ac ansicrwydd, ond o’n hymrwymiad i’w cefnogi ym mha bynnag ffordd y gallwn yn y dyfodol.

Obituary by Rev Professor Leslie Francis


When the Right Revd Anthony Crockett was enthroned in Bangor Cathedral 18 September 2004, he brought to his diocese a profound theology of clergy and laity as pilgrim people. 

In his early days as Bishop of Bangor, he walked with people and talked with people.  He won their hearts and began to shape their minds.  For him, the pilgrim people of God embraced rich diversity, but eschewed division.


Young and old could walk comfortably alongside their Bishop, as could conservatives and liberals, catholics and evangelicals, Welsh-speakers and English-speakers.  The vision of the Church of God in the Diocese as a pilgrim people reached its goal only a week ago, on Saturday 21 June, when clergy and laity from across the Diocese stepped out in the rain on the Diocesan Pilgrimage.  Sadness that Bishop Anthony had not been well enough to fulfil his vision to be there in person as the symbol of unity in the Diocese was qualified by the inspirational address that he had prepared and that Canon Andrew Jones so ably presented.


Bishop Anthony brought to the Diocese of Bangor the benefits of his academic training in classics from King's College London and his ministerial training at St Michael's College Llandaff.  After being made deacon on 1971, he served in parish ministry in The Dioceses of Llandaff and St Davids, before his formative experience of serving as Secretary for the Board of Ministry between 1991 and 1999.  In 1999 he was appointed Archdeacon of Carmarthen and Vicar of Cynwil Elfed and Newchurch in the Diocese of St Davids.  He was consecrated bishop 16 July 2004 at Llandaff Cathedral.


All of Bishop Anthony's friends will have their own very special memories of his intellectual rigour, his liturgical sense, and his pastoral heart.
 
Throughout his last year, Bishop Anthony embraced his illness with courage, fortitude and hopefulness, and very much remained Bishop of his Diocese to the end.  His example has been, and will continue to be, an inspiration for many, to trust God and to serve God in sickness as in health.
 
The Diocese of Bangor will mourn the untimely death of a gifted Bishop, it will pray for and support his widow Caroline, the children and family; but to be true to Bishop Anthony's vision, the pilgrim people of God must continue to walk in the path towards unity into which he has so ably led them.
 
The Revd Professor Leslie J Francis
Canon Theologian, Bangor Cathedral
Professor of Religions and Education, University of Warwick

AM FWY O WYBODAETH CYSYLLTWCH AG:
 

Entered By Anna Morrell on Thursday 03rd of July 2008

Anna Morrell, Archbishop’s Media Officer
Church in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF

Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794