Croeso i esgobaeth Tyddewi a enwyd ar ôl nawddsant Cymru y mae ei Gadeirlan yn sir Benfro yn un o drysorau`r genedl. Yn ogystal â sir Benfro, mae`r esgobaeth heddiw yn cynnwys siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin, gan gynnwys y cymoedd diwydiannol gorllewinol a thref Llanelli, ynghyd â rhai o ardaloedd mwyaf gwledig ac anghysbell y Canolbarth.
Gyda`i threftadaeth Geltaidd, ei lleoliad hynod a`i hymwybyddiaeth o hanes diwidiannol a cymdeithasol diweddar de Cymru, mae cymeriad amrywiol, dwyieithog yr esgobaeth heddiw yn sylfaen a symbyliad i genhadaeth Gristnogol.
Os yw’ch porwr yn derbyn “cwcis”, yna bydd yn cofio am y dewis iaith yr ydych newydd ei wneud pan fyddwch yn ymweld â’r wefan eto. Os ydych eisiau newid eich dewis diofyn, cliciwch yma i ddychwelyd i’r dudalen mynediad.
Oes gennych chi hoff emyn?

Mae Dechrau Canu Dechrau Canmol eisiau clywed eich barn ac yn ystod mis Chwefror bydd y gyfres yn gofyn i chi bleidleisio am Emyn i Gymru 2012.
Ddechrau’r mis daeth panel o arbenigwyr ynghyd i ddewis rhestr fer o 20 cân. Yn dilyn pleidlais gan wylwyr bydd 12 o’r emynau mwyaf poblogaidd yn cael eu perfformio mewn cymanfa ganu ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar 2 Mawrth.
Bydd y gymanfa yn cael ei darlledu mewn rhifyn arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C nos Sul 11 Mawrth
Creirfa a Adferwyd
Gwyl pum niwrnod i ddathlu adfer
Creirfa Dewi Sant
Eglwys Gadeiriol Tyddewi 1 – 5 Mawrth 2012




