ESGOB NEWYDD
Mae’r gŵr a fu’n gyfrifol am drefnu a chyflawni prosiect adnewyddu gwerth deng miliwn o bunnoedd ar gyfer Cadeirlan Tyddewi wedi ei ethol yn 128fed Esgob Tyddewi. Dewiswyd y Tra Pharchedig (John) Wyn Evans ar ôl ond diwrnod o drafod gan “Goleg Etholiadol” o 46 o aelodau yn cynrychioli pob un o esgobaethau’r Eglwys yng Nghymru, y mwyafrif yn naturiol o Dyddewi. Dywedodd ei fod yn “fud” ac wedi ei “wefreiddio” gan y newyddion.

Daw ffefryn y bwcis ar gyfer y swydd, Wyn Evans, sy’n 61 oed, â phrofiad helaeth i’w ganlyn. Ef oedd ar flaen y gâd yn yr ymgyrch i sicrhau Cadeirlan Tyddewi fel trysor pennaf yr Eglwys yng Nghymru, a lle i ddenu pererinion a thwristiaid o bedwar ban byd. Fel Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol ac awdurdod cydnabyddedig ar Gristionogaeth Geltaidd a’i blas arbennig ar ysbrydolrwydd fyfyrgar, daw â dyfnder gweledigaeth a gydnabuwyd yn helaeth yng Ngorllewin Cymru. Mae’n awdurdod ar fywydau saint cynnar Cymru, ac yn ddiweddar, ef oedd golygydd y llyfr “St. David of Wales – Cult Church and Mission”.
Yn enedigol o Sir Benfro, magwyd Wyn Evans yn Aberystwyth, lle roedd ei dad yn Ficer. Astudiodd archaeoleg ym Mhrifysgol Cymru, fe’i ordeiniwyd yn offeiriad ym 1972 a gwasanaethodd gydol ei yrfa yn Esgobaeth Tyddewi. Mae’n Gymro Cymraeg o’r crud. Mae’n frwd ei gefnogaeth i’r celfyddydau, yn Gadeirydd yr ?yl bwysig a gynhelir yn flynyddol yng Nghadeirlan Tyddewi, ac yn Noddwr yr elusen “Arts in Churches”. Mae’n briod â Diane, crochenydd broffesiynol sy’n gweithio yn Nhyddewi.
Datganodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Barry Morgan, a fu’n gofalu am yr Esgobaeth wedi ymddiswyddiad y Gwir Barchedig Carl Cooper ym mis Ebrill, ei fod “wrth ei fodd” â chanlyniad yr etholiad. “Mae’n amlwg fod gan Wyn gefnogaeth aruthrol oddi fewn ac oddi allan i’r Esgobaeth” meddai. “Mae’n bâr diogel o ddwylo a hefyd yn ddyn a all symud yr Esgobaeth yn ei blaen a pharhau â’i gwaith da”.

