Datblygaid Gweinidogaethol Parhaus:
Yr Esgob yn disgwyl i bob offeiriad a diacon fynychu dyddiau hyfforddi Datblygiad Gweinidogaethol Parhaus fel rhan o’i (h)addysg a ffurfiant parhaus. Gwahoddir pob Darllenydd Trwyddedig hefyd i gyfranogi yn ogystal â chymryd rhan yn eu rhaglen hyfforddi pwrpasol.
- RHAGLEN 2012
- Dydd Mawrth 6 Mawrth
10am-3.30pm Llyfrygell y Sylfaenwyr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan
- Gofalu am yr enaid a’r teulu
-
Hanfod gweinidogaeth offeiriad yw rhoi i eraill mewn ffordd aberthol o’r trysorau mae Duw eisoes wedi eu rhoi i ni. Er mwyn gwneud hyn yn ffyddlon ac effeithiol, mae’n rhaid i ni gael ein hadnewyddu’n ysbrydol yn gyson, ochr yn ochr ag integreiddio o fewn ein dyddiaduron prysur ymrwymiad cadarn i’n teulu a’n ffrindiau.
Yn sesiwn y bore bydd y Parch. Ganon Brendan O’Malley (a fu’n Gaplan i Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan)
yn archwilio ysbrydolrwydd offeiriadol drwy rôl y bugail fel gwas, athro, pregethwr, iachawr a llywydd y sacramentau. Yn dilyn hyn yn sesiwn y prynhawn bydd yr Hybarch Keith Smalldon, Archddiacon Tyddewi, yn rhoi cyflwyniad ar y dasg heriol o reoli ein hamser gan sicrhau ein bod yn gofalu’n dyner am ein hanwyliaid drwy gydbwysedd priodol rhwng ein gweindogaeth a bywyd y teulu. -
Nodwch, os gwelwch yn dda, fod Ainsley Griffiths ar gyfnod sabothol yn ystod y cyfnod hwn ac y bydd Matthew Hill, Caplan Llambed, yn gofalu am fanylion ymarferol y diwrnod DGP.
-
Dydd Mercher-Dydd Gwener 20-22 Mehefin Prifysgol Cymru Casnewydd (Campws Caerleon)
-
Trwy ddarlithoedd, gweithdai ac addoliad, bydd y gynhadledd hon yn archwilio ystyr cadarnhau Duw fel creawdwr y nefoedd a’r ddaear a’r hyn y medrwn ei wneud yng ngoleuni’r gred hon. Amcan cyffredinol y digwyddiad hwn fydd ein galluogi i gyflawni’n ffyddlonach gweledigaeth Pumed Nod Cenhadaeth, sef “ymdrechu i ddiogelu cyfanrwydd y greadigaeth a chynnal ac adnewyddu bywyd y ddaear”.
-
Ein prif siaradwyr fydd: Claire Foster-Gilbert, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr ‘The Ethics Academy’, yn gwasanaethu ar hyn o bryd fel Cyfarwyddwraig Datblygiad yn Eglwys St. Martin-in-the-Fields, Sgwâr Trafalgar, Llundain. Robin Morrison, sydd newydd ymddeol fel Swyddog Eglwys a Chymdeithas yr Eglwys yng Nghymru.
-
Bydd siaradwyr eraill yn cynnig gweithdai ar wahanol agweddau o ddiddordeb – diwinyddol, gwyddonol ac ymarferol.
YSGOL HAF 2012: Ar y ddaear fel yn y nef: ein hymateb i waith creadigol Duw
-
-
Dydd Iau 11 Hydref 10am–3.30pm Ystafell Teifi, Canolfan Cynadledda Halliwell, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin
- Diweddariad ar Astudiaethau Beiblaidd
-
Trwy gadw’n ymwybodol o’r ysgolheictod diweddaraf ym myd diwinyddiaeth gallwn atgyfnerthu ac adnewyddu ein pregethu a’n haddysgu. Bydd y diwrnod DGP hwn yn cynnig cyflwyniadau gan ddau uwch academydd o Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd y Drindod Dewi Sant, gan ffocysu ar ddatblygiadau yn ein dealltwriaeth o’r Hen Destament a’r Newydd.
-
Yn sesiwn y bore bydd yr Athro Martin O’Kane yn dangos perthnasedd storïau’r Hen Destament i gymhlethdod bywyd modern, gan roi sylw arbennig i Genesis ac Eseia ac eglurebu’r ddarlith trwy ddefnyddio delweddau Beiblaidd gweledol o bob rhan o Gymru. Yna bydd Dr. Catrin Williams yn archwilio defnydd o ddamcaniaethau cof cymdeithasol (‘social memory theory’), disgyblaeth sy’n atgyfnerthu llawer iawn o ysgolheictod cyfoes yn yr Efengylau, gan gynnwys cyfrol glodfawr Richard Bauckham, Jesus and the Eyewitnesses: The Gospels as Eyewitness Testimony (Eerdmans, 2006).
-
RHAGLEN: 10.00 Cymnun Bendigaid; 11.00 Sesiwn y bore; 12.45 Cinio; 1,45 Sesiwn y prynhawn
-
Dydd Mawrth 20 Tachwedd 10am–3.30pm Ystafell Teifi, Canolfan Cynadledda Halliwell, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin
- Materion yn ymwneud â phriodas
-
Mae’r Ddeddf Priodas (Cymru) 2010 yn cynnwys newidiadau arwyddocaol i’r gweithdrefnau yn ymwneud â phriodas yn ein heglwysi, gan gynnwys estyn diffyniad y term ‘cysylltiad cymwys’ sy’n penderfynu’r hawl i briodi mewn eglwys benodol. Bydd ein Cofrestrydd Esgobaethol, Anthony Jenkins, yn ein cynorthwyo i archwilio’r newidiadau hyn ac i werthfawrogi’r effaith ar ein plwyfi. Andrea Rowlands, Rheolwr Cofrestru Sifil a Chofrestrydd Arolygol Sir Gaerfyrddin fydd yn amlinellu persbectif ein hawdurdodau lleol ar y newidiadau a weithredir gan y Ddeddf. Fel y byddwch yn ymwybodol efallai, mae Llywodraeth San Steffan ar fin dechrau ymgynghoriad eang ar y ddeddfwriaeth a fwriedir ynglŷn â phriodas dau unigolyn o’r un rhyw a gwahoddir sylwadau gan glerigion, ochr yn ochr â chyrff eraill sydd â diddordeb. Felly bydd ein diwrnod hefyd yn cynnwys arolwg o’r datblygiadau diweddaraf a thrafodaeth am y goblygiadau.
-
Croesewir awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau hyfforddi eraill yn y dyfodol, o ran siaradwyr a phynciau. Os oes gennych gynnig penodol, cysylltwch â’r Swyddog DGP, Ainsley Griffiths, a rhoddir ystyriaeth i’ch syniadau fel rhan o’r broses cynllunio ar gyfer rhaglen 2013.

