To Church in Wales home page

Esgobaeth
Tyddewi
Mentro Mewn Cenhadaeth

Dylid anfon yr holl waith papur at:
Louise Davies,
Ysgrifennydd DAC,
Sŵn y Dail,
Heol Smyrna,
Llangain,
Caerfyrddin SA33 5AB

Dolenni Defnyddiol

Celf mewn Eglwysi
CADW
Adran amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cenhadaeth CADW yw amddiffy, cadw a hyrwyddo gwerthfawrogiad o'r dreftadaeth adeiledig yng Nghymru.
Y Gymdeithas Gwarchod Adeiladau Hynafol (SPAB)  
Yn rhoi cyngor ar ofalu am hen adeiladu, yn trefnu cyrsiau hyfforddi ac yn ymgyrchu i achub adeiladau sydd mewn perygl.
Y Gofrestr Gadwraeth
Yn cadw gwybodaeth ar gadwraethwyr-adferwyr yn y DU ac Iwerddon. Gallwch ddefnyddio'r wefan hon i ddod o hyd i gadwraethwr-adferwr lleol ac am arweiniad ar ofalu am gelf, hen bethau a nodweddion addurnol adeiladau.
Cymdeithas yr Ugeinfed Ganrif
Yn ceisio diogelu treftadaeth pensaernïaeth a chynllunio ym Mhrydain o 1914 ymlaen.
Cymdeithas Oes Fictoria
Cymdeithas Oes Fictoria yw'r gymdeithas genedlaethol sy'n gyfrifol am astudio a gwarchod pensaernïaeth a chelfyddydau eraill Fictorianaidd ac Edwardaidd.
Y Gymdeithas Henebion
Yn ymroddedig i astudio a chadw henebion, adeiladau hanesyddol a hen waith crefft cain yn y DU.
Cyfeillion Eglwysi di-gyfaill
Yr hyn sy'n cyfateb i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Eglwysi yng Ngymru (Lloegr yn unig sy'n dod o fewn cylch gorchwyl hwnnw).
Y Grŵp Sioraidd
Mae'r grŵp yn ymgyrchu yn erbyn esgeuluso, camdrin a dinistrio adeiladau, parciau a gerddi Sioraidd, yng Nghymru a Lloegr.
Cronfa Treftadaeth y Loteri
Grantiau treftadaeth a thrwsio.
Gwefan "Churchcare" Eglwys Loegr
Mae cynnal a chadw eglwys yn cynnwys llu o wahanol dasgau o faterion Iechyd a Diogelwch i drwsio toeon, o yswirio'r eglwys i godi arian. Mae'r wefan hon yn yn cynnig popeth sydd ei angen i rywun sy'n cymryd rhan yn y gwaith o redeg eglwys. DS Gwefan Eglwys Loegr yw hon, felly ni fydd yr holl reoliadau'n berthnasol i Gymru.
Cynllun Grantiau Mannau Addoli Rhestredig
Cynllun grant dros dro sy'n talu, mewn cymorth grant, y gwahaniaeth rhwng 5% a'r union swm a wariwyd ar TAW ar waith trwsio cymwys i fannau addoli rhestredig.
Grantiau gan yr Ymddiriedolaeth Cadw Eglwysi Hanesyddol

CWESTIYNAU CYFFREDIN,
NEU ARWEINIAD SYML I ALLUEDDAU

Bwriad hwn yw darparu arweiniad byr i'r drefn allueddau ar gyfer pobl brysur y byddai'n well ganddynt fod yn gwneud rhywbeth arall. Mae esboniad llawn ar gael fan hyn.

Beth ar y ddaear yw galluedd? 

Mewn geiriau syml, caniatâd swyddogol i wneud newid ffisegol i'ch eglwys yw galluedd.

A pham fod angen "caniatâd swyddogol" arnom ni?

Mae'r galluedd yn ceisio amddiffyn treftadaeth yr eglwys ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac ar yr un pryd mae'n ceisio cydbwyso anghenion y genhadaeth Gristnogol yn yr 21 ganrif. Nod y DAC a'r Canghellor yw gweithredu'n wrthrychol ar ran yr eglwys gyfan.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi'r hyn a elwir yn "Eithriad Eglwysig" i'r eglwys, sy'n golygu nad oes rhaid i'r eglwys fynd drwy'r drefn seciwlar ar gyfer Cydsyniad Adeiladau Rhestredig wrth wneud newidiadau i eglwysi. Ond mae pris i'r rhyddid hwn fodd bynnag - mae'n rhaid i ni gydymffurfio â chyfres o ganllawiau llym sydd wedi eu pennu gan y llywodraeth. Dyma'r drefn Galluedd. Os gwelir ein bod yn osgoi neu'n methu gweithredu'r drefn hon yna gallai'r eglwys golli'r Eithriad. Fyddai hyn ddim yn beth da am nifer o resymau ond gan mai arweiniad byr yw hwn, wnawn ni ddim manylu fan hyn.
Mae llawer o adeiladau eglwysig wedi eu rhestru fel rhai o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol arbennig ac mae newidiadau i'r adeiladau hyn yn cael eu rheoli gan CADW, ar ran y Cynulliad Cenedlaethol. Rhaid ymgynghori â CADW, yr awdurdod lleol a'r Cymdeithasau Amwynder Cenedlaethol priodol (ee y Gymdeithas er Gwarchod Adeiladau Hynafol) cyn y gellir caniatau galluedd.  

Bues i'n siarad â rhywun o blwyf arall am allueddau ac fe ddywedodd wrtha' i am beidio ffwdanu gan ei fod yn cymryd yn rhy hir.

Mae'n gamsyniad cyffredin fod proses galluedd yn araf ac yn hirwyntog iawn. Mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o geisiadau'n mynd drwy'r broses bwyllgorau heb unrhyw broblem. Oni bai bod y mater yn ddadleuol neu'n gymhleth ac os byddwch yn darparu digon o wybodaeth ar gyfer y pwyllgor, yna ddylech chi ddim gael problem. Felly dyma ddau reswm dros fynd ymlaen a gwneud cais:

  1. Mae aelodau'r DAC yno i helpu ac annog cyfranogiad yn gynnar a gallant ddarparu cyngor ar eich cynigion. Bydd angen ymgynghori â'r Awdurdod Lleol, CADW a'r Cymdeithasau Amwynderau hefyd mewn rhai achosion a bydd rhaid cymryd eu cyngor hwythau i ystyriaeth. Yn y pen draw, gall hyn arbed amser ac arian.
  2. Mae gan beriglorion ac wardeiniaid eglwysi ddyletswydd cyfriethiol i gydymffurfio â'r drefn statudol felly gallwch roi'ch hun mewn sefyllfa lle gallech chi dalu costau unrhyw waith adfer neu gostau llys os na wnewch chi gais.

Felly beth yw'r cam cyntaf?

Awgrymwn eich bod yn cael sgwrs ag Ysgrifennydd DAC, Louise Davies, fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar y ffordd mwyaf effeithiol o fynd ymlaen â'ch achos penodol chi. Efallai y bydd rhaid i chi gwblhau Datganiad o Angen ac Arwyddocâd os oes angen hynny ar y cynnig.
Yna bydd rhaid i chi gyflwyno:

  1. Ffurflen gais Galluedd y gellir ei chael naill ai drwy ysgrifennu, ffonio neu ebostio Mrs C Louise Davies, Ysgrifennydd DAC, Sŵn y Dail, Heol Smyrna, Llangain, Caerfyrddin SA33 5AB, Ffôn a Ffacs 01267 231859 e-bost carolinelouise1@btinternet.com
  2. Copi o Ffurflen 2 wedi'i chwblhau (dyma'r hysbysiad ar ddiwedd y ffurflen Galluedd y mae'n rhaid ei arddangos y tu allan i'r eglwys neu yng nghyntedd yr eglwys am 28 diwrnod)
  3. Copi o benderfyniad y Cyngor Plwyf Eglwysig yn cytuno i wneud cais am alluedd neu ddatganiad wedi'i lofnodi gan y periglor ei bod/fod wedi gweld y cofnod priodol.
  4. Lluniau digidol o gyd-destun yr eglwys, ac o unrhyw beth y bwriedir ei osod
  5. Manylebau, rhaglenni gwaith, cynlluniau, golygon ac amcanbrisiau'r pensaer a/neu'r contractwr yn ôl y galw. Noder nad yw adroddiad arolwg bob pum mlynedd yn ddigonol, ac ni ellir ei ddefnyddio.

Noder os nad yw Ffurflen 1 wedi ei llenwi'n gywir ac os nad yw'r ddogfennaeth berthnasol yn gyflawn, bydd y Plwyf yn cael ei hysbysu o'r wybodaeth sydd ar goll ac ni fydd y cais yn cael ei ystyried nes i'r wybodaeth honno gael ei derbyn.
Cliciwch fan hyn ar gyfer Nodiadau Canllaw ar gyfer llenwi'r ffurflen Alluedd.
Y Canghellor yn unig all ganiatau galluedd - dim ond argymell cynnig y gall y DAC ei wneud.