To Church in Wales home page

Esgobaeth
Tyddewi
Mentro Mewn Cenhadaeth

Ail gynnau’r tân yng Ngartheli

Dyfrig Lloyd yn sôn am y torfeydd yn dod ynghyd

Menter Diddorol a Llwyddiannus

Mae ‘na lawer o sôn y dyddiau hyn am rwydweithiau cymdeithasol ar y rhyngrwyd.  Gwefannau megis Bebo, Facebook, Friends Reunited ac yn y blaen.  Eu bwriad yw cadw pobl mewn cysylltiad â’i gilydd, neu er mwyn i hen ffrindiau ail gysylltu â’i gilydd ar ôl blynyddoedd.  Hefyd mae ysgolion yn mynd ati bob hyn a hyn i drefnu aduniadau er mwyn i gyn-ddisgyblion a chyn athrawon ail gwrdd yn eu hen ysgol. 

Am hynny, penderfynodd Eglwys Gartheli, Eglwys allan yng nghefn gwlad godidog Ceredigion, tua phum milltir o Lambed, drefnu aduniad Eglwysig.  Gwahoddwyd cyn aelodau’r ysgol sul, y côr, cynifer o bobl a phosib oedd â chysylltiadau â’r Eglwys, i wasanaeth arbennig ar ddydd Sul yr 20fed o Fedi 2009.  Roedd yr ymateb yn un rhagorol, gyda phobl yn trafaelu gryn bellter er mwyn dod yn ôl i’w gwreiddiau ysbrydol, yn yr hen Eglwys.  Hefyd, gwahoddwyd cyn ficeriaid a’u teuluodd.  Braf oedd gweld yr Eglwys o dan ei sang y Sul hwnnw, a’r awyrglych yn un hapus, un o ddathliad ac atgofion melys ac i’r mwyafrif, roedd y gwasanaeth yn un emosiynol.  Rhai ohonynt ddim wedi gweld ei gilydd am dros ddeugain mlynedd.  Ar ôl y gwasanaeth hwylus a bendithiol, roedd amser i bawb gymdeithasu dros ddisgled o de a chacen; edrych ar hen luniau a hel atgofion.  Cyfle ydoedd, ie, i gofio’n nôl, ond hefyd i’n hatgoffa’n hunain, fel dywed Sant Paul yn ei Epistol at yr Effesiaid, “…nid estroniaid a dieithriaid ydych mwyach, ond cyd-ddinasyddion â’r saint, ac aelodau o deulu Duw”. (Effesiaid 2.19).

Y Parchedig Dyfrig Lloyd, Ficer Tîm Eglwys Gartheli