To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Canfod lle i’ch plentyn mewn ysgol Eglwys yng Nghymru

Gallwch gael gwybodaeth am eich ysgol Eglwys yng Nghymru leol yn  www.churchschoolswales.org

Dylai materion yn ymwneud â derbyniad i eglwys arbennig gael ei godi gyda’r Pennaeth. Dylai materion cyffredinol am ysgolion Eglwys gael eu codi gyda Chyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth neu’r awdurdod addysg lleol.

YSGOLION: Addysg yr Eglwys yng Nghymru

Mae 25,000 o blant a phobl ifanc ledled Cymru yn mynd i mynd i un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru.

Darllenwch ein datganiad cenhadaeth

Fideo'r ysgolion: cliciwch y botwm chwarae (cymeradwyir band llydan)

Mae yna 172 o ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru, ac mae’r 6 esgobaeth Anglicanaidd yn cefnogi dysgu o safon uchel yn ein hysgolion.

Fel darparwr addysg statudol, rydym yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol mewn partneriaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae hyn yn ein galluogi i gefnogi gyrfaoedd mwy na 5,000 o athrawon a staff cymorth, a meithrin arweinwyr ysgolion ar gyfer y dyfodol.  Mae gennym hefyd gysylltiadau eciwmenaidd cryf, gan weithio mewn partneriaeth gyda chymunedau ffydd eraill trwy Cytûn, a chyda’r Eglwys Babyddol sydd hefyd yn ddarparwr statudol llefydd ysgolion yng Nghymru. 

offeiriad yn dangos llun i blant ysgolMae arwydd o’n partneriaeth gyda chymunedau lleol i’w weld yng ngwaith llywodraethwyr ysgolion. Rydym yn gyfrifol am benodi llywodraethwyr sylfaen, sy’n bont rhwng ysgolion a’r gymuned leol.

Mae ysgolion yr Eglwys yng Nghymru i’w cael yn y rhan fwyaf o ardaloedd awdurdodau unedol, gan gynnig amrywiaeth i bobl Cymru sydd bob amser wedi bod yn arloeswyr ym maes addysg. Mae’n hysgolion yn rhai cynhwysol wrth natur, yn gwasanaethu plant a phobl ifanc mewn ystod o gymunedau. Maent hefyd yn ffurfio canolbwynt cymunedol naturiol, boed hynny yng nghanol dinasoedd neu mewn pentrefi gwledig.

Mae’n hysgolion wedi ymrwymo i ddathlu treftadaeth gyfoethog ffydd, iaith a diwylliant ein gwlad, gan gynnig yr addysg orau un i blant Cymru mewn cyd-destun Cristnogol diogel a chadarn.

ysgol

Timau Addysg Esgobaethol

Mae gan bob esgobaeth dîm addysg a arweinir gan Gyfarwyddwr Addysg Esgobaethol. Mae gwefan gan Fwrdd Addysg Esgobaeth Llandaf.