Priodas
Cwestiynau cyffredin
- Beth yw gostegion?
- Mesurau cyfreithiol rhagarweiniol cyn priodi mewn eglwys - dyna yw gostegion (banns). Datganiad ydynt o’ch bwriad i briodi a chyfle i unrhyw un ddatgan rheswm cyfreithiol pam na ellir cynnal y briodas. Darllenir gostegion ym mhrif wasanaeth y Sul yn y plwyf lle mae’r ddau ohonoch chi’n byw yn ogystal ag yn yr eglwys lle byddwch chi’n priodi, os yw honno mewn plwyf arall. Cyhoeddir y gostegion ar dri Sul (olynol fel rheol, ond nid o reidrwydd) yn ystod y ddeuddeng wythnos cyn y briodas.
- A oes rhaid i mi briodi yn fy Eglwys Blwyf, neu alla i ddewis unrhyw eglwys?
- Os ydych chi’n addoli’n rheolaidd mewn eglwys y tu allan i’r plwyf lle rydych chi’n byw, mae’n bosibl i chi briodi yno fel rheol. Os nad ydych chi’n addoli’n rheolaidd yno, beth am ddechrau mynychu? Fel rheol, bydd disgwyl i chi fynychu gwasanaethau am o leiaf chwe mis cyn y byddwch yn gymwys i briodi mewn eglwys heblaw eich eglwys blwyf.
Os ydych chi am briodi mewn plwyf lle nad yw’r un ohonoch chi’n byw neu nad ydych chi’n addoli yno’n rheolaidd, bydd angen i chi gael sgwrs gydag offeiriad y plwyf. Gall parau wneud cais am Drwydded Arbennig Archesgob Caergaint, os oes gan un ohonynt gysylltiad gwirioneddol a hirhoedlog â’r Eglwys maen nhw’n dymuno priodi ynddi. I wneud cais neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â The Faculty Office, 1 The Sanctuary, Westminster, Llundain SW1P 3JT ffôn: 020 7222 5381.
- A alla i briodi mewn eglwys hyd yn oed os nad ydw i’n mynd i’r eglwys?
- Gallwch! Cofiwch fod naws Gristnogol bendant i seremoni briodasol mewn eglwys a bydd yn tybio eich bod yn derbyn y ddealltwriaeth Gristnogol o briodas.
- A all rhywun sydd wedi ysgaru briodi mewn eglwys?
- Faint fydd y gost?
- Mae costau cyfreithiol priodas yn cynnwys cyhoeddi’r gostegion, y gwasanaeth priodasol a thystysgrif briodas. Bydd costau ychwanegol am gôr, organydd, clochyddion, caniatâd i recordio’r briodas ar fideo ac ati. Trafodwch hyn gyda’ch offeiriad plwyf.
- Pam mae angen i ni baratoi ar gyfer y briodas?
- Mae’r rhan fwyaf o bobl yn priodi’n hyderus, gan dybio y bydd y briodas yn para, ond mae cyfran uchel iawn yn gwahanu ac ysgaru, gwaetha’r modd. Efallai y bydd eich priodas yn para blynyddoedd lawer tan i angau’ch gwahanu, felly mae’n gwneud synnwyr, waeth pa mor dda rydych chi’n adnabod eich gilydd, i roi ystyriaeth ddwys i’ch perthynas yn y dyfodol fel gŵr a gwraig. Bydd y rhan fwyaf o eglwysi’n eich gwahodd i baratoi ar gyfer eich bywyd gyda’ch gilydd.
- A allwn ni gymryd rhan yn y gwaith o gynllunio’r gwasanaeth?
- A allwn ni recordio’r gwasanaeth ar fideo?
- Bydd angen i chi ofyn caniatâd yr offeiriad plwyf ac mae gan rai plwyfi bolisi o beidio â chaniatáu recordiadau fideo. Efallai y bydd ffi. Mae materion hawlfraint yn codi hefyd: am ragor o wybodaeth, ewch ihttp://www.cofe.anglican.org/worship/downloads/litcopy.rtf dan y pennawd Video and Audio Recordings.
- A fydd ymarfer cyn y seremoni?
- Bydd y gweinidog am ymarfer y gwasanaeth gyda chi a’r bobl eraill sy’n cymryd rhan fel bod pawb yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Cynhelir yr ymarfer yn yr eglwys fel rheol, rai dyddiau cyn y gwasanaeth.
- Pryd allwn ni briodi?
- Penderfynir ar ddiwrnod ac amser y gwasanaeth ar y cyd â’ch gweinidog. Mae’n rhaid cynnal y gwasanaeth rhwng 8am a 6pm ac ni ddylai wrthdaro â gwasanaethau eraill yr Eglwys. Er enghraifft, os oeddech chi am briodi ddydd Sul, byddai’n rhaid cynnal y briodas ar adeg nad yw’n gwrthdaro â gwasanaethau arferol y Sul a phan mae’r gweinidog ar gael. Yn ôl traddodiad, ni chynhelir unrhyw briodasau yn ystod y Garawys, sef yn ystod y chwe wythnos cyn y Pasg.
- A yw’n bosibl cael eich bendithio yn yr eglwys ar ôl priodi dramor neu mewn Seremoni Sifil?
- Ydy. Gofynnwch i’ch offeiriad plwyf neu’ch gweinidog am hyn. Nid oes angen unrhyw fesurau cyfreithiol rhagarweiniol.
- Beth os yw un ohonom yn byw dramor?
- Nid yw gostegion yn bosibl dan yr amgylchiadau hyn, felly bydd angen Trwydded Gyffredin. Bydd eich gweinidog yn eich cynorthwyo i wneud cais am y drwydded hon.
- Beth os yw un ohonom yn ddinesydd tramor?
- Os yw’r naill neu’r llall yn ddinesydd gwlad y tu allan i Ganada, Awstralia, Seland Newydd, De Affrica, yr UE neu’r Unol Daleithiau, byddai’n ddoeth cael llythyr gan y llysgenhadaeth neu swyddfa’r is-gennad briodol yn dweud y bydd y briodas yn cael ei chydnabod yno. Mae’n rhaid i’r briodas fod trwy Drwydded Gyffredin ac nid trwy ostegion.