Yn y dechreuad…
Ni wyddom yn union pryd y daeth Cristnogaeth i Brydain, ond gan i esgobion Prydeinig fod yn bresennol yng Nghyngor Arles yn 314 a Chyngor Rimini yn 359, mae’n rhaid fod yma Gristnogion yng nghyfnod y goresgyniad Rhufeinig, a ddaeth i ben tua’r flwyddyn 410. Iaith Prydain yn y cyfnod hwn oedd Brythoneg, ffurf gynnar ar y Gymraeg, a siaredid hi drwy’r ynys gyfan hyd at iseldiroedd yr Alban.
Iaith nid annhebyg i Ladin yn ei ffurfiant gramadegol oedd Brythoneg. Y gair Brythoneg am ‘ddŵr’, er enghraifft, oedd dubros (dyna’r gair, gyda llaw, a roddodd yr enw lle Dover yn Lloegr). Y gair am ‘daith’ neu ‘siwrnai’ oedd senton (‘hynt’ yn Gymraeg). O roi’r ddau air hyn gyda’i gilydd, fe geir dubros-senton, ‘hynt y dŵr’, ac o’r ffurf hon y daeth y gair Cymraeg ‘dyffryn’. Mae’n amlwg i’r hen eiriau Brythoneg golli eu terfyniadau, a throi’n dubr a hynt cyn dod ynghyd i ffurfio’r gair Cymraeg newydd. Digwyddodd y newid mawr hwn yn yr iaith Frythoneg yn fuan wedi ymadawiad y Rhufeiniaid, a dyna eni’r iaith Gymraeg.
Mae’r farddoniaeth Gymraeg hynaf sydd ar gael yn perthyn i’r chweched ganrif, ac y mae’n tarddu, nid o Gymru, ond o ogledd Lloegr a de’r Alban, yr ardaloedd o gwmpas Catraeth (Catterick) a Dineidin (Caeredin), ac y mae peth ohoni yn adlewyrchu cefndir Cristnogol. Mae’r bardd Aneirin, er enghraifft, a ysgrifennai oddeutu’r flwyddyn 600, yn cyfeirio at fynd ‘i lannau i benydu’.
Yn yr un cyfnod y dechreuodd Cristnogaeth ymsefydlu’n gadarn yng Nghymru. Y bumed a’r chweched ganrif oedd oes y seintiau Cymreig, sefydlwyr y llannau. Darn o dir oedd ystyr wreiddiol y gair llan, ac yna ‘darn o dir y codwyd eglwys arno’, ac yna ‘yr eglwys’ ei hun. Mae nifer fawr iawn o enwau lleoedd yng Nghymru yn cynnwys yr elfen llan, ac yna enw’r sant a’i sefydlodd. Un o’r llannau enwocaf yw Llanilltud Fawr ym Morgannwg.

Llanilltud Fawr
Yno, cyn y flwyddyn 490, y sefydlodd Illtud ysgol a ddaeth yn enwog mewn sawl gwlad, a lle’r addysgwyd gwr tra dylanwadol, yn cynnwys Maelgwn, brenin Gwynedd yn ddiweddarach, a roddodd, cyn ei farw yn 547, dir i Ddeiniol i sefydlu llan a dyfodd i fod yn gadeirlan Bangor.
I’r un cyfnod y perthyn Dyfrig, esgob cyntaf Llandaf, a’r esgob cyntaf y gwyddom amdano yng Nghymru. Mae Padarn, a sefydlodd Lanbadarn yng Ngheredigion, a Theilo, a sefydlodd Landeilo yn Sir Gaerfyrddin, a Dewi Sant, nawddsant Cymru, a sefydlodd ei fynachlog enwog yn Nhyddewi yn Sir Benfro, yn perthyn i gyfnod ychydig yn ddiweddarach.
Sonia Rhygyfarch, a ysgrifennodd Fuchedd Dewi yn yr unfed ganrif ar ddeg, am Synod a gynhaliwyd yn Llanddewibrefi yng Ngheredigion rywbryd oddeutu’r flwyddyn 569. Yr oedd hynny wyth mlynedd ar hugain cyn i Awstin Sant lanio yng Nghaint yn 597, ar orchymyn y Pab, i Gristioneiddio Prydain. Cenhadu i’r Eingl-Sacsoniaid paganaidd, a oedd wedi heidio i dde-ddwyrain Prydain yn sgîl ymadawiad y Rhufeiniaid, oedd gorchwyl Awstin. Yr oedd y traddodiad Cristnogol Cymraeg yn hen erbyn ei gyfnod ef, a’r iaith Ladin eisoes wedi gadael ei hôl arno (cymh. y geiriau Cymraeg eglwys, mynach, pechod o’r Lladin ecclesia, monachus, peccatum).
Daw’r gair Cymraeg Garawys o’r Lladin Quadragesima (deugain niwrnod), a’r gair Pasg o’r Lladin Pascha (ffurf ar y gair Hebraeg Pesach). Lent ac Easter sydd yn y Saesneg – y gair Lent o’r ferf Hen Saesneg lencten, ‘ymestyn’ (cyfeiriad at y dyddiau’n ymestyn yn y gwanwyn), a’r gair Easter o enw’r hen dduwies baganaidd Eostr. Y mae’r iaith Gymraeg a Christnogaeth ym Mhrydain yn rhannu’r un crud. Yn ddiweddarach o gryn dipyn y Cristioneiddiwyd y newydd-ddyfodiaid i’r ynys.
YMCHWIL A THRAFODAETH BELLACH
- Sawl llan sydd yn eich ardal chwi? Beth wyddoch chwi am eu sylfaenwyr?

