To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Oes gennych chi gwestiwn? Darllenwch yr adran cwestiynau cyffredin

CONFFYRMASIWN

Yn yr Eglwys Fore, roedd y rhai a oedd yn ymuno â'r Ffydd Gristnogol yn cael eu bedyddio a'u conffyrmio yn yr un gwasanaeth.  Ar ôl cyfnod, gwahanodd yr Eglwys yn y Gorllewin fedydd a chonffyrmasiwn ac eithrio i oedolion.  Fel rheol, mae babanod yn cael eu bedyddio a bydd yr addewidion yn cael eu gwneud ar eu rhan gan eu rhieni a'u rhieni bedydd sy'n addo y byddant yn eu haddysgu yn y ffydd Gristnogol a phan fyddant yn ddigon hen, yn eu hannog i wneud ymrwymiad personol a chael eu conffyrmio gan yr esgob.

a confirmation ceremony

Mewn gwasanaeth Conffyrmasiwn heddiw, mae yna ymgeiswyr o bob oed yn aml a bydd rhai wedi cael eu bedyddio eisoes tra y bydd eraill yn cael eu bedyddio a'u conffyrmio yn yr un gwasanaeth.  Mae nifer gynyddol o oedolion yn dod i gael eu conffyrmio ac nid oes unrhyw derfyn o ran oed.

Mae'r Gwasanaeth Conffyrmasiwn yn dilyn cyfnod o baratoi.  Gellir paratoi trwy fynychu grŵp anffurfiol gydag eraill, lle mae offeiriad neu unigolyn lleyg yn eich cyflwyno i agweddau amrywiol ar y ffydd Gristnogol, neu gallai'ch eglwys(i) lleol gynnal cwrs Alpha neu rywbeth tebyg i fwy o bobl.  Dylai paratoi fod yn hwyl ac yn gyffrous a bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau anodd a chymryd rhan mewn trafodaethau.

Yn y Gwasanaeth Conffyrmasiwn (a gynhelir yng nghyd-destun y Cymun), gofynnir i ymgeiswyr ymateb gyda'i gilydd i gwestiynau y mae'r Esgob yn eu gofyn iddynt:

A ydych yn troi at Grist?
Yr wyf yn troi at Grist

A ydych yn edifarhau am eich pechodau?
Yr wyf yn edifarhau am fy mhechodau

A ydych yn ymwrthod â’r drwg?
Yr wyf yn ymwrthod â’r drwg

A ydych yn credu yn Nuw Dad, Creawdwr pob peth?
Yr wyf yn credu ac yn ymddiried yn Nuw Dad

A ydych yn credu yn ei Fab Iesu Grist, Gwaredwr y byd?
Yr wyf yn credu ac yn ymddiried yn Nuw Fab

A ydych yn credu yn yr Ysbryd Glân, Rhoddwr bywyd?
Yr wyf yn credu ac yn ymddiried yn Nuw’r Ysbryd Glân

Bydd yr Esgob wedyn yn bedyddio unrhyw ymgeiswyr i gael eu bedyddio. 

Yna, bydd yn gweddïo ac yn erfyn ar yr Ysbryd Glân i agosáu at y rhai sy'n cael eu conffyrmio.  Bydd wedyn yn arddodi ei ddwylo ar bob ymgeisydd (ac efallai y bydd hefyd yn eneinio pob un gydag olew sanctaidd) ac yn dweud, ‘y mae Duw wedi dy alw a’i wneud yn eiddo iddo’i hun’. Yna mae'n gweddïo:

Cyfnertha, Arglwydd, dy was/wasanaeth-ferch â’th ras nefol, ac eneinia ef/hi â’th Ysbryd Glân; galluoga ef/hi at dy wasanaeth a’i g/chadw yn y bywyd tragwyddol. Amen.

Mae'r gwasanaeth yn parhau ac mae'r ymgeiswyr yn derbyn Cymun Sanctaidd.

Heading

Dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Morbi commodo, ipsum sed pharetra gravida, orci magna rhoncus neque, id pulvinar odio lorem non turpis.

Sub-heading

Sed aliquam, nu eget euismod ullamcorper, lectus nunc ullamcorper orci, fermentum bibendum enim nibh eget ipsum. Donec porttitor ligula eu dolor. Maecenas vitae nulla consequat libero cursus venenatis.