Deoniaeth Arfon
St Aelhaearn, Llanaelhaearn

Cyfeirnod map:
Y dref agosaf:
Caernarfon / Pwllheli
Eitemau o ddiddordeb:
Eglwys hynafol ar ffurf croes ar godiad tir yng nghanol y pentref. Dyddia'r corff o'r G12, y transept gogleddol o ddechrau'r G16. Ychwanegwyd y transept deheuol yn 1622. Clochdy uchel o 1744 gyda chloch dyddiedig 1749, yn enwi'r wardeiniaid a'r gwneuthurwr.
Yn 1892 ehangwyd y gangell ac adeiladwyd festri newydd gan ddefnyddio'r hen goed. Tri lansed cyfaint yn y ffenest ddwyreiniol wedi ei gwneud gan weithwyr lleol. Carreg o'r G6 gyda'r arysgrifen:
ALIORTVS ELMETIACO HIC IACIT
Chwe phen cerfiedig ar y groglen sy'n dyddio o'r G16.

