To Church in Wales home page

Esgobaeth
Bangor

ETIFEDDIAETH RAGOROL

Mae bod yn aelod yn yr Eglwys yng Nghymru yn golygu bod yn etifedd i draddodiad Cristnogol maith yn yr iaith Gymraeg. O’i dechrau cyntaf bu’r iaith Gymraeg yn cerdded law yn llaw â'r grefydd Gristnogol.

Darllenwch "Etifeddiaeth Ragorol"

Hanes yr Esgobaeth

Bangor yw'r hynaf o esgobaethau Cymru: hi yw'r esgobaeth diriogaethol hynaf yn y Deyrnas Unedig a safle ei chadeirlan yw'r un a ddefnyddiwyd yn ddi-dor am yr amser hwyaf.

celtic crossDaeth Deiniol Sant a'i fynachod i Fangor yn 525 O.C. ac adeiladu'r eglwys gyntaf yno, gan amgylchynu'r darn eang o dir o'i chwmpas â 'bangor', clawdd gwiail. Y tu mewn i'r cylch trigai cymuned gymysg o fynachod, clerigion priod a theuluoedd lleyg (gweithwyr, masnachwyr a gweithwyr amaethyddol gan mwyaf). Dyma batrwm arferol mynachlog Geltaidd neu 'glas' - patrwm hollol wahanol i fynachlogydd cyfnod y Normaniaid. Yn, neu cyn, 546 O.C. gwahoddodd Maelgwn, Brenin Gwynedd, Deiniol i fod yn Esgob ar `fy nhiriogaeth oll'. Felly, yn wahanol i'r holl esgobaethau Celtaidd eraill, roedd Bangor yn esgobaeth diriogaethol o'r dechrau. O'r `clas' bach dechreuol tyfodd y ddinas bresennol o amgylch y gadeirlan, o dan nawdd y tywysogion Cymreig. Dan gysgod y sefydlogrwydd a'r amddiffyniad a roddent hwy âi'r mynachod allan i efengylu'r deyrnas, yn unol â'r patrwm Celtaidd traddodiadol. Sefydlodd seintiau Celtaidd eraill gelloedd yn y cylch. Ym mhlith y rhain yr oedd Cybi (yng Nghaergybi), Seiriol (Penmaen-mawr a Phenmon), a Chadfan yn Nhywyn.

Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd tair Archddiaconiaeth yn yr esgobaeth: Môn, Bangor a Meirionnydd. Yn ddiweddarach daeth Archddiaconiaethau Bangor a Môn at ei gilydd i ffurfio dwy Archddiaconiaeth: Bangor (a Môn) sydd â saith deoniaeth ynddi, a Meirionnydd sydd â phump deoniaeth ynddi. Nid yw ffiniau'r esgobaeth wedi newid fawr ddim ers hynny.

Deiniol Sant a Bangor

Gwyddom yn eithaf sicr pwy oedd Deiniol: Deiniol fab Dunawd fab Pabo Post Prydyn - Pabo addiffynnydd Prydyn yn yr Hen Ogledd, fel y gelwid gogledd Lloegr a de'r Alban - aelod o is-gangen o deulu brenhinol a grybwyllir droeon mewn achau cynnar a hen ganu. Daeth ei hynafiaid i ogledd Cymru i ganlyn y mudo mawr o'r Hen Ogledd tua chanol y bumed ganrif (mae cryn ddadlau ynghylch yr union ddyddiad); cedwir cof am ei daid yn Llanbabo ym Môn. Y mae'n debyg eu bod hwy, ac eraill o'u cydymfudwyr, eisoes wedi derbyn Cristnogaeth trwy genhadaeth Sant Ninian a'i ddilynwyr a disgynyddion y rheini.

A barnu oddi wrth dystiolaeth arysgrifau sy'n perthyn i ddiwedd a bumed ganrif neu ddechrau'r chweched, yr oedd ychydig Gristnogion yng ngogledd Cymru cyn cyfnod Deiniol; nodir mai sacerdos, offeiriad neu efallai esgob, oedd SANCTINUS a enwir ar garreg Eglwys Rhos, a BIVATIGIRNUS ar garreg Trescawen (Llangwyllog), ac y mae'r garreg sy'n awr yn eglwys Aberdaron, ond a fu gynt ar fynydd Anelog, yn coffáu SENACUS, offeiriad (presbyter), CUM MULTIDUTINEM FRATRUM, gyda llu mawr o frodyr, yn awgrymu sefydliad crefyddol.

Menai Bridge ChurchCymerodd hir amser i Gristnogaeth fagu gwreiddiau a lledaenu; dim ond grwpiau bychain o Gristnogion, ar wasgar, a geid yn y canrifoedd cynnar. Ddechrau'r chweched ganrif gallwn synhwyro cenhadu bwriadol, a hwnnw'n ymledu i'r gorllewin a'r gogledd o dde-ddwyrain Cymru, lle'r oedd Illtud, 'athro coeth bron holl Brydain', wedi sefydlu yn y lle a elwir heddiw Llanilltud Fawr. Y mae'n bosibl awgrymu teithiau rhai o'r seintiau oddi wrth yr eglwysi a gysegrwyd ar eu henwau.

Wedi cryn grwydro - i Went, Penfro, Ceredigion, efallai i fyny afon Dyfi a throsodd i ddyffryn Dyfrdwy, Llanuwchllyn, Llanfor, Bangor Iscoed, Gwyrddymp, Marchwiail, Penarlâg - cyrhaeddodd Deiniol a'i ddilynwyr deyrnas Maelgwn, brenin Gwynedd, ger aber dwyreiniol afon Menai. Beth bynnag oedd ei ffaeleddau, yr oedd Maelgwn yn noddwr hael i'r seintiau, a'r tebyg yw mai ef a roddodd y tir i Ddeiniol. Wedi cael y tir cododd Deiniol ffens o'i amgylch trwy yrru polion ar eu pennau i'r ddaear a phlethu canghennau rhyngddynt; y term technegol am ffens o'r fath oedd 'bangor'. O fewn y tir a amgylchynwyd, y 'llan', cododd eglwys fechan, yna cell i fyw ynddi, a'i holl ddilynwyr, yn unigolion a theuluoedd, yn codi eu hanheddau eu hunain. Felly y sefydlwyd y fynachlog Geltaidd neu'r clas.

ruinByddai bywyd teuluol mewn clas, yr oedd rhyddid i offeiriaid Celtaidd ac offeiriaid Cymru briodi os oeddent yn dymuno. Nid offeiriaid mo'r dynion i gyd, rhaid wrth ffermwyr a chrefftwyr i ofalu am y gymuned. Ac nid mynaich caeth i'r fynachlog oedd yr offeiriaid; byddent yn mynd allan i'r wlad oddi amgylch i efengylu, weithiau'n mynd gryn bellter, yn aros am ysbaid a sefydlu eglwysi newydd, ond gan gadw o fewn teyrnas Maelgwn mae'n bur debyg. O bryd i'w gilydd byddent yn dychwelyd at eu harweinydd, am ysbrydoliaeth, cefnogaeth ac arweiniad, ac felly'n raddol daeth Bangor yn fam-eglwys Gwynedd, theyrnas Maelgwn, a Deiniol, ei thad ysbrydol, yn esgob.

Bu farw Maelgwn o'r pla ofnadwy hwnnw, y fad felen, a ysgubodd drwy'r wlad yn 547 O.C., felly rhaid bod Deiniol wedi ei gysegru'n esgob cyn y difrod trychinebus; dyna pam yr awgrymir c. 546 O.C. fel dyddiad sefydlu esgobaeth Bangor. Y mae'n bosibl iddi gael ei sefydlu ychydig cyn hynny; byddai dyddiad wedi hynny'n bur annhebygol. O'i chychwyn cyntaf yr oedd yn uned diriogaethol, yn cyd-ffinio â theyrnas Maelgwn, Gwynedd; hi, o bosibl, yw'r esgobaeth diriogaethol gynharaf yn y wlad.

Er nad Deiniol a ddaeth â Christnogaeth i'r ardal, yn ei gyfnod ef y daeth Cristnogaeth yn grefydd sefydlog, "gyfundrefnol" Gwynedd.

Dr Enid Pierce Roberts