To Church in Wales home page

Esgobaeth
Bangor

Ynglŷn â'r Esgobaeth

map of britain Mae'r esgobaeth yn ymestyn ar draws chwarter ogledd-orllewinol Cymru, gan gwmpasu hen siroedd Môn, Caernarfon, Meirionnydd a darn gogleddol Maesyfed. Mae'n cyfateb yn fras i hen deyrnas hanesyddol Gwynedd. Mae'n ymestyn o borthladd Caergybi yn y gogledd i dref farchnad wledig Llanidloes yn y de; o ynys sanctaidd Enlli yn y gorllewin i Landudno yn y dwyrain, ar draws arfordir Gogledd Cymru; y tu ôl i'r arfordir cyfyd Eryri a darnau mwyaf mynyddig Cymru.

menai bridgeMae swyddogion yr esgobaeth yn teithio cryn dipyn: gellir teithio am dair awr ar draws tir mynyddig a thrwy dirwedd prydferthaf Prydain i weinidogaethu i gymunedau bychain gwledig heb adael yr esgobaeth. Ar hyd ei glannau mae gan yr esgobaeth amryw o gymunedau bychain, trefi gwyliau a phorthladdoedd. Y tu hwnt i'r arfordir ceir nifer fawr o gymunedau bychain a fu'n ddiwydiannol gynt (ond sydd heb ddiwydiant bellach am fod y diwydiant llechi wedi diflannu), ac amrywiol gymunedau gwledig ac amaethyddol. Yn y rhain mae llawer yn ddi-waith, mae llawer o'r amaethu ar dir ymylol (ac eithrio ardal fechan ym Mhowys) ac mae'r boblogaeth yn fach ac yn wasgaredig. Cafodd yr ardal gyfan ei dynodi'n ardal Gradd 1, ardal ddifreintiedig, gan y Gymuned Ewropeaidd. Yn ddiwylliannol mae gwahaniaeth mawr rhwng diwylliant trefi glan y môr, pentrefi'r mynydd-dir a chymunedau dyffrynnoedd ffrwythlon canolbarth Cymru.

universityMae pobl ifainc talentog yn ymadael i gael addysg uwch ac i ddilyn gyrfaoedd. Er bod diwydiannau ysgafn wedi cael eu sefydlu mae diweithdra yn parhau'r duedd i symud. Ychydig iawn o ddiwydiannau cynhyrchu a geir yma. Twristiaeth, yr awdurdodau lleol, adrannau'r llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus ac amaethyddiaeth yw'r cyflogwyr mwyaf. Mae dinas Bangor yn elwa llawer ar y Brifysgol, sydd â naw mil o fyfyrwyr ynddi bellach, y coleg trydyddol ac Ysbyty Gwynedd. Mae llawer o bobl o rannau eraill o'r wlad yn dal i ddod yma i ymddeol; mae hyn yn cynyddu'r galwadau ar y gwasanaethau lleol ac yn newid y cymunedau lleol. Un o brif dasgau'r Eglwys yw cefnogi cymunedau o'r fath, i greu hunan-hyder a fydd yn eu galluogi i leisio eu barn fel bod eu gwir anghenion yn cael eu diwallu.

Materion Cyfoes

Mae newidiadau cymdeithasol ac economaidd mwy diweddar wedi cyfrannu at y problemau a'r tensiynau a geir yn y cymunedau: dirywiad y diwydiannau traddodiadol, diweithdra, diboblogi gwledig, Cymry Cymraeg yn symud i ffwrdd, mewnlifiad parhaol o bobl sydd wedi ymddeol o'r Canoldir a Gogledd Lloegr, y cynnydd yn nifer y tai haf yn newid bywyd pentrefi a chymunedau, pobl yn cymudo o Gaer, Manceinion a Lerpwl bob dydd ar draffordd Gogledd Cymru; cau ysbytai lleol, diffyg diwydiannau, pellter daearyddol, diffyg adnoddau cyfathrebu, prinder trafnidiaeth gyhoeddus, diffyg adnoddau a gwasanaethau eraill. Mae'r problemau hyn yn effeithio ar bawb ac yn effeithio hefyd ar fywyd a thystiolaeth yr Eglwys. Mae Adran Cyfrifoldeb Cymdeithasol yr Esgobaeth wedi bod yn ymwneud â llawer o'r materion hyn ac wedi ceisio cynnig cymorth a chefnogaeth trwy gyfrwng prosiectau, megis `Cywaith Joseff', Undeb Credyd Bangor, llinellau cymorth a chyrsiau hyfforddi rhieni, a thrwy gydweithio gydag awdurdodau a chyflogwyr lleol.

Language Issues

Cymraeg yw iaith gyntaf a chyfrwng cyfathrebu naturiol tri chwarter poblogaeth yr esgobaeth. Mewn rhai ardaloedd mae hyn yn cynyddu i fod yn 90% o'r boblogaeth tra bod mwy yn siarad Saesneg yn nhrefi glan y môr, y trefi hanesyddol a Deoniaeth Arwystli yn y de. Ac eithrio Arwystli mae'n rhaid i bron bob plwyf gynnig darpariaeth yn y ddwy iaith.

Mae'r esgobaeth wedi mabwysiadu Polisi Iaith sydd wedi cael ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Gefeillio Esgobaethau

Mae Esgobaeth Bangor wedi sefydlu dolen esgobaethol gydag Esgobaeth Dulyn a Glendalough yn Eglwys Esgobol Iwerddon. Mae Undeb y Mamau, y Darllenwyr Trwyddedig, yr Eglwysi Gadeiriol a llawer o ddeoniaethau a phlwyfi wedi ffurfio dolen.

Mae dolen ffurfiol hefyd wedi cael ei sefydlu ers 2003 gydag Esgobaeth Lango yng Ngogledd Uganda yn dilyn ymweliadau rheolaidd o'r ddwy ochr gan bobl o Fangor ac o Lango ers 1994.