Y Broses Dewis ar gyfer Ordinasiwn yn Esgobaeth Bangor
- Mae'r ymgeisydd yn siarad efo'u ebrwyad am y bosibilrwydd o ordinasiwn.
- Mae'r ebrwyad yn cysylltu â'r Warden Ymgeiswyr i gymeradwyo'r ymgeisydd ar gyfer cyfweliad.
- Mae'r ymgeisydd yn cael ei gyfweld / ei chyfweld gan y Warden Ymgeiswyr sy'n argymell;
- bod yr ymgeisydd yn cael ei gyfweld / ei chyfweld gan yr Esgob neu mwy na thebyg
- bod yr ymgeisydd yn gweld cynghorydd galwedigaeth.
- Mae'r cynghorydd galwedigaeth yn treulio peth amser gyda'r ymgeisydd i geisio dirnad natur eu galwedigaeth - yn yr Eglwys ac yn y Byd yn ogystal ag i alwedigaethau swyddogol.
- Os yw'r cynghorydd galwedigaeth yn teimlo dylai'r ymgeisydd ystyried ordinasiwn ymhellach, maent yn cael cyfweliad pellach gan y Warden Ymgeiswyr, ac wedyn yr Esgob.
Neu mae'r Warden yn gweld ymgeisydd er mwyn eu hannog i ystyried galwedigaethau eraill ac i orffen yn ffurfiol y broses dewis ar gyfer ordinasiwn.
Trwy gydol yr amser, mae'r ebrwyad yn gweld yr ymgeisydd yn reolaidd i roi cefnogaeth bugeiliol a chyfarwyddyd ar alwedigaeth.
- Mae'r Esgob yn cyfweld yr ymgeisydd ac yn penderfynu;
- eu bod yn cael eu cyfweld gan Y Panel Dewis Esgobaethol. Mae'r ymgeisydd yn cwblhau ffurflenni cais ac yn cael archwiliad meddygol gan y swyddog meddygol. Os ydynt yn ymgeisio am y weinidogaeth di-dal, mae eu CPE yn cyfarfod i drafod eu cais ac i'w cymeradwyo yn ffurfiol cyn eu cyfweliad.
neu
- eu bod yn ystyried galwedigaethau eraill. Os ydyn nhw, neu eu priod, wedi ail-briodi yn dilyn ysgariad maent yn dechrau'r broses o gael eu cyfweld gan y Panel ar gyfer Ordinasiwn, Priodas ac Ailbriodas ar ôl derbyn ffurflenni o Swyddfa'r Esgob.
- Mae'r ymgeisydd yn cael ei gyfweld / chyfweld gan y Panel Dewis Esgobaethol sydd yn argymell....
- a. na ddylai'r ymgeisydd fynd ymlaen i'r cam nesaf o ymchwilio galwad ar gyfer ordinasiwn, neu
- dylai'r ymgeisydd fynychu Cynhadledd Dewis Taleithol ar ôl cyfnod o baratoi. Mae'r ymgeisydd wedyn yn gweld cynghorydd galwedigaethol neu person arall yn reolaidd i drafod materion perthnasol yn deillio o'r panel, neu
- dylai'r ymgeisydd fynychu Cynhadledd Dewis Taleithol cyn gynted â phosib.
- Mae'r ymgeisydd yn mynychu CDT.
- Mae'r Esgob yn hysbysu'r ymgeisydd ynglyn âi benderfyniad, ar ôl derbyn argymhelliad y CDT.
- Mae'r Warden Ymgeiswyr yn gweld yr ymgeisydd er mwyn trafod hyfforddiant neu i barhau i ystyried eu galwedigaeth, os nad ydynt wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer hyfforddiant.