To Church in Wales home page

Esgobaeth
Bangor

Gweinidogaeth Ordeiniedig yn Esgobaeth Bangor, Yr Eglwys yng Nghymru

Wrth i chi ddechrau ar y broses dewis i'r Offeiriadaeth

Bydd y dewiswyr bugeiliol yn asesu a ydych chi'n medru ymwneud â phobl. Mae angen rhai sgiliau cymdeithasol arbennig ar fugail. Fedrwch chi gydymdeimlo â'r rhai sydd mewn angen? Pa mor barod ydych chi i alluogi eraill Iiddarganfod eu galwad i weinidogaethu a chenhadu? Fe fyddan nhw am ddod i wybod tipyn amdanoch, a'r hyn sydd yn eich ysgogi chi.

Bydd dewiswyr addysgol am weld a oes gennych chi'r potensial i ddysgu am y ffydd ac a ydych chi'n meddu ar y gallu i rannu eich ffydd mewn ffordd effeithiol. Fe fyddan nhw'n sicr am glywed am rai o'r llyfrau yr ydych newydd fod yn eu darllen. Mae llawer o weinidogaeth offeiriad yn addysgol, a llawer o hyfforddiant offeiriad yn ddiwinyddol. Bydd dewiswyr addysgol am wybod a oes gennych chi'r potensial i fedru dysgu eich hunan ac i addysgu eraill.

Peidiwch a phryderu! Does neb yn berson gorffenedig. Y gair mawr yw 'potensial'.

Nid ydym yn disgwyl i chi wybod yr atebion i gyd, ond fe fyddwn ni'n disgwyl i chi fod yn ymwybodol o rai o'r cwestiynau.

Yn yr Eglwys yng Nghymru mae'r holl ymgeiswyr yn ymrwymo i wasanaethu yn y Dalaith am o leiaf bum mlynedd ar ôl iddyn nhw gael eu hyfforddi. Oherwydd natur yr esgobaeth hon, yr unig ymgeiswyr y byddwn ni yn eu noddi ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig lawn amser yw'r rhai sy'n barod i ddysgu Cymraeg, gan fod y plwyfi hyfforddi i gyd ac eithrio un, a mwyafrif llethol y plwyfi i gyd yn ddwyieithog. O'n tu ni, fe fyddwn yn darparu adnoddau ar gyfer dysgu'r laith.

I weinidogaethu'n effeithiol yma, mae'n bwysig cael dealltwriaeth dda, a chydymdeimlad at, ein cyd-destun a'n diwylliant. Mae'n bwysig bod yn realistig ynglŷn a llawenydd a rhwystredigaethau bywyd plwyfol, ac mae hiwmor hefyd yn gallu bod yn help mawr!

Rydym hefyd yn gweithio'n ddygn i ddatblygu cenhadaeth a gweinidogaeth pawb yn ordeiniedig a lleyg. Rydym yn esgobaeth fach, gyfeillgar. Mae'n hawdd mynd at yr Esgob, ei staff a'r swyddogion. Maent yn gefnogol iawn.

Bydd taith pob person drwy'r broses yn wahanol. Fel arfer gofynnir i ymgeiswyr ymgymryd â rhyw fath o baratoad, weithiau ar ffurf darllen o dan gyfarwyddyd neu gyfarfod yn rheolaidd ag offeiriad plwyf profiadol i edrych ar bynciau megis gweddi, yr Ewcharist neu'r offeiriadaeth.

Mae'r paratoad mor hanfodol â'r penderfyniad i'ch cynnig eich hun i gael eich ordeinio yn y lle cyntaf. Gwrandewch ar sylwadau'r Warden Ymgeiswyr a'r Esgob a gofynnwch am unrhyw gymorth neu gyngor yr ydych yn teimlo bod ei angen arnoch.

  • Francis Dewar, Called or Collared - SPCK 2000
  • Gordon Kuhrt, An Introduction to Christian Ministry
  • Following your Vocation in the Church of England - Church House Publishing 2000
  • Stephen Cotterell, Prayer Through Life - National Society / Hodder and Stoughton 1990
  • Robin Greenwood, Practising Community - SPCK 1996