Rydw i'n meddwl efallai bod Duw yn fy ngalw i...
Efallai eich bod chi wedi cael ymdeimlad cryf bod Duw yn eich galw chi i'r weinidogaeth ordeiniedig, neu efallai bod cyd-Gristnogion wedi bod yn eich annog chi am beth amser i ystyried caei eich ordeinio. Efallai bod Duw wedi bod yn eich galw chi mewn ffordd ddramatig, neu eich bad chi wedi sylweddoli'n raddol bod Duw wedi bod yn eich arwain chi i'r cyfeiriad hwn dros nifer a flynyddoedd.
Sut bynnag y gwnaethoch chi benderfynu eich bod chi'n mynd i gynnig eich hun i'r broses ddewis ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig, mae'n bwysig sylweddoli mai ar ddechrau taith yr ydych chi yn awr, nid ar ei therfyn. Efallai y byddwch chi am ofyn i Warden yr Ymgeiswyr 'Ydw i'n cael fy ngalw i'r weinidogaeth ordeiniedig?' Mae'n debygol mai 'efallai ...' fydd yr ateb yn hytrach nag 'ydych' neu 'nac ydych' pendant.
Mae'n bosibl eich bod chi wedi dod i'r fan hon am nifer o resymau, rhai ohonynt yn rhai da, eraill yn rhai llai buddiol. Yn ogystal â'ch ymdeimlad o ufuddhau i alwad Duw, mae'n bwysig eich bod chi'n onest a chi eich hun ynglŷn â'r amrywiaeth a gymhellion sydd wedi'ch arwain chi i geisio ordinasiwn.
Rydyn ni'n faich eich bod chi wedi dewis eich cynnig eich hun i wasanaethu Duw yn y ffordd hon. Mae'n dda eich bod chi'n fodlon gosod eich dyfodol yn nwylo Duw, ac yn fodlon iddo Ef ddefnyddio eich doniau a'ch talentau er gogoniant iddo Ef.
Fodd bynnag, nid yw pawb sy'n ei gynnig/ei chynnig ei hun i'r weinidogaeth ordeiniedig yn caei ei gymeradwyo / ei chymeradwyo i dderbyn hyfforddiant. Ond peidiwch a gadael i'r posibilrwydd hwn eich digalonni chi ar hyn a bryd.
Gallwch fod yn hyderus fod Duw wedi'ch dwyn chi i'r fan hon yn eich bywyd i bwrpas. Yn ogystal a rhoi cyfle i chi ddirnad ewyllys Duw cyn belled ag y mae'r offeiriadaeth yn y cwestiwn, bydd y broses yn eich helpu chi i ddod i'ch adnabod chi eich hun yn well, ac i ystyried y weinidogaeth y'ch gelwir chi iddi, beth bynnag fydd honno, fel person lleyg neu fel clerig, yn fwy dwys. Fodd bynnag, mae Duw yn galw y rhan fwyaf o'i bobi i'w wasanaethu fel lleygwyr/wragedd o fewn yr Eglwys a'r byd.
Rhan o swyddogaeth Warden yr Ymgeiswyr yw eich helpu chi i ddirnad beth yw eich gweinidogaeth ac i'ch helpu chi i dyfu yn y ffydd. Fodd bynnag, mae'r Warden yn cydweithio'n glós â'r Esgob, eich offeiriad plwyf a chynghorwyr galwedigaethol i'ch helpu chi drwy'r adeg arwyddocaol a sensitif hon yn eich bywyd. Mae'n bwysig sylweddoli hefyd bod Warden yr Ymgeiswyr, eich offeiriad plwyf a'r Esgob yn asesu a ydych yn cael eich galw i'r weinidogaeth ordeiniedig ac a ydych chi'n addas ar gyfer y weinidogaeth honno. Er na fydd y cyfweliadau yn rhai ffurfiol, fe fydd eich cyfarfodydd gyda nhw yn rhoi cyfle iddynt ddod i benderfyniad ynglyn â'ch cais I gael eich ordeinio.
Bydd y broses ddewis yn dechrau pan fyddwch chi'n gweld Warden yr Ymgeiswyr. Os bydd hynny'n addas bydd hi'n eich anfon chi at yr Esgob. Os bydd yr Esgob yn penderfynu ei fod ef am roi prawf pellach ar eich galwad byddwch yn cael cyfweliad gan Fwrdd Dewis yr Esgobaeth a, os byddwch yn lwyddiannus yno, gan Fwrdd Dewis y Dalaith. Bydd hwnnw wedyn yn cynghori'r Esgob a ddylid eich cymeradwyo chi i gael eich hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig.
Gall y broses ddewis ymddangos yn un hynod anodd, ond mae'n sicrhau bod y penderfyniadau gorau yn caei eu gwneud, nid i chi yn unig, ond i fywyd a gweinidogaeth yr Eglwys. Bydd y dewiswyr (esgobaethol a thaleithiol) yn asesu eich potensial galwedigaethol, bugeiliol, ac addysgol.
Bydd aseswyr galwedigaethol am wybod am eich tyfiant yn y ffydd, yn arbennig beth sydd wedi'ch arwain chi i'ch cynnig eich hun ar gyfer ordinasiwn. Ydy eich ffydd yn un realistig ac a ydy eich perthynas a Duw yn un real? Beth yw'ch dealltwriaeth chi o'r offeiriadaeth, urddau sanctaidd ac ordinasiwn? Mewn byd sydd yn newid yn gyflym, mae offeiriaid yn gorfod bad yn hyblyg yn eu dealltwriaeth o'u rôl.. Bydd yr aseswyr yn edrych am dystiolaeth sy'n profi bod yr ymgeisydd yn mynd ati i ddyfnhau'r ffordd y mae ef neu hi yn meddwl ac yn gweddïo.

