Gweinidogaeth Leol
- Beth yw Gweinidogaeth Leol?
- Gweinidogaeth ar y cyd sy'n perthyn i bawb a fedyddiwyd, yn lleygwyr neu'n ordeiniedig, mewn lleoliad penodol.
- Beth yw ei diben?
- Ei nod yw rhyddhau'n gyfan gwbl holl ddoniau pobl Dduw, fel bo Crist yn cael ei amlygu'n fwyfwy.
- Sut y mae'n wahano! i'r hyn sy'n gyfarwydd i ni?
- Mae hynny'n dibynnu ar yr hyn sy'n gyfarwydd i chi. Yn fyr, mae'n cymryd yn ganiataol bod 'gweinidogaeth' yn perthyn i bawb o bobi Dduw, nid y clerid yn unig. Wedi'r cyfan, gair arall am 'wasanaeth' yw 'gweinidogaeth', a gelwir ar bob Cristion i wasanaethu Duw trwy eraill yn rhinwedd eu bedydd.
- Beth felly am y ficer?
- Mewn Eglwys esgobol fel sydd gennym ni, gyda'r Esgob y saif yr awdurdod yng nghyd-destun cred ac ymarferoldeb. Yn y cyswllt hwn mae ganddo drosolwg o'i esgobaeth. Caiff y trosolwg hwn ei ddirprwyo ar lefel lleol i offeiriaid sy'n cynrychioli'r Esgob, ac felly yr Eglwys yn ehangach i gynulleidfaoedd neilltuol. Yr elfen gynrychioliadol yw'r hyn sy'n gwneud gweinidogaeth ordeiniedig offeiriad mor unigryw. Felly nid gwneud y gwaith o weinidogaethu a rhedeg yr Eglwys leol yw un yr offeiriad, ond yn hytrach gweithredu fel un sy'n gosod y sylfeini: rhywun sydd, tra'n cyflwyno Crist i'r gynulleidfa, yn creu maes cyffredinol lle bydd doniau a gweinidogaethau unigol yn cael eu meithrin, a lle bydd bywyd yr eglwys yn ffynnu.
- Beth yw Timau Gweinidogaeth Leol?
- Y rhain yw 'grwpiau craidd' mewn Plwyfi Gweinidogaeth Leol sydd yng ngofal hybu a chenhadu gweinidogaeth yn eglwys leol.
- Pwy sy'n rhan o Dîm Gweinidogaeth Leol!?
- Y clerig mewn gofal, ynghyd a nifer o Gristnogion lleol sydd wedi eu dewis yn sgil trafodaeth â'r gynulleidfa gyfan.
- Beth yw Plwyfi Gweinidogaeth Leol?
- Plwyfi a gomisiynwyd gan yr Esgob, yn sgil cwblhau proses Adolygiad Plwyf, sydd ynddo'i hun yn fodd i geisio gweledigaeth Duw ar gyfer y dyfodol ar y cyd. Mae'r strategaeth ar gyfer y plwyf sy'n deillio o hyn yn ei dro'n darparu'r agenda ar gyfer y Tîm Gweinidogaeth Leol.
- Beth yw sefyllfa'r Cyngor Plwyfol Eglwysig yn sgil hyn?
- Y C.P.E. a'r clerig mewn gofal sy'n parhau'n gyfrifol am weinidogaeth a chenhadaeth gyffredinol yr eglwys leol, yn unol a gofynion cyfansoddiadol. Mae Tîm Gweinidogaeth Leol, lle maent wedi eu sefydlu, yn 'adain weithredol' i'r C.P.E., ac yn parhau'n atebol i'r cyngor.
- Sut allech chi ddod yn Blwyf Gweinidogaeth Leol?
- Mae'n hawdd! Cysylltwch â Swyddfa'r Esgob.

