To Church in Wales home page

Esgobaeth
Bangor

Heading

Dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Morbi commodo, ipsum sed pharetra gravida, orci magna rhoncus neque, id pulvinar odio lorem non turpis.

Sub-heading

Sed aliquam, nu eget euismod ullamcorper, lectus nunc ullamcorper orci, fermentum bibendum enim nibh eget ipsum. Donec porttitor ligula eu dolor. Maecenas vitae nulla consequat libero cursus venenatis.

GweddÏau dros Esgobaeth Bangor

Colectau ar gyfer yr Ystwyll I & II

Dad tragwyddol,
a ddatguddiaist ym medydd Iesu
ei fod yn Fab i ti,
gan ei eneinio â'r Ysbryd Gln:
ysbrydola ni
a anwyd o ddwr a'r Ysbryd,
i ildio ein bywydau i'th wasanaeth,
fel y bo i ni lawenhau o gael ein galw yn blant i Dduw;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Hollalluog Dduw,
yng Nghrist rwyt yn gwneud pob peth yn newydd:
trawsffurfia dlodi ein natur
â chyfoeth dy ras,
ac yn adnewyddiad ein bywydau
gwna'n hysbys dy iginiant nefol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.


Litani gan yr Esgob Wes Frensdorff, cyn-esgob Nevada

Gadewch i ni weddïo am eglwys
lle mae pawb yn gwybod i sicrwydd fod Duw yn eu caru,
a'i fod ef yn ein hadnabod ni i gyd wrth ein henwau;
am eglwys lle mae Iesu yn wir Air Duw,
yn ffenestr i galon y Tad,
yn arwydd o obaith Duw ac o'i fwriad ar gyfer y ddynoliaeth gyfan;
am eglwys lle nad yw'r Ysbryd wedi ei gyfyngu i blaid,
ond yn wynt a thân ym mhob un,
yn harddu'r eglwys â doniau amryliw.
Arglwydd deled dy deyrnas
Gwneler dy ewyllys.

Gadewch i ni weddïo am eglwys
lle mae'r addoli yn fywiog ac yn hwyliog
yn ogystal ag yn addolgar ac yn sanctaidd;
lle mae pobl yn gwybod sut i weddïo ac yn mwynhau gwneud hynny -
yn aml ac yn gyson, ar eu pennau'u hunain ac ar y cyd,
mewn distawrwydd, mewn geiriau ac ar gân;
eglwys lle mae'r Cymun yn ganolbwynt bywyd
a gwasanaethu yn ganolbwynt cenhadu;
a'r Arglwydd y gwas yn cael ei adnabod yn nhoriad y bara.
Arglwydd deled dy deyrnas
Gwneler dy ewyllys.

Gadewch i ni weddïo am eglwys
sy'n datgan fod bywyd yn drech na marwolaeth,
lawn cymaint â bod yna fywyd wedi marwolaeth;
sy'n barod ac yn fodlon newid, heb ofni'r newid hwnnw,
sy'n medru adnabod llaw Duw yn yr aildrefnu ac yn y chwyldro,
sy'n datgan prydferthwch amrywiaeth,
sy'n casáu carchar undonedd,
sy'n gwadu bod rhwyg rhwng y secwlar a'r sanctaidd, rhwng y byd a'r eglwys,
gan mai dyma'r byd y daeth Crist iddo ac y bu farw drosto.
Arglwydd deled dy deyrnas
Gwneler dy ewyllys.

Gadewch i ni weddïo am eglwys
sydd wedi ei gwreiddio mor ddwfn yn yr efengyl a thraddodiad
fel y gall hi, fel coeden fyw,
ysgwyd yn y gwynt a'n synnu ni'n barhaus â'i blodau newydd.
Arglwydd deled dy deyrnas
Gwneler dy ewyllys.

Gadewch i ni weddïo am eglwys
lle mae pawb yn gwybod eu bod yn rhan o'r laos,
pobl sanctaidd Duw:
cymuned sydd yn gweinidogaethu yn hytrach na chymuned sydd yn llechu o gwmpas gweinidog.
Arglwydd deled dy deyrnas
Gwneler dy ewyllys.

Gadewch i ni weddïo am eglwys
o dangnefeddwyr a iachawyr sydd yn ymboeni cymaint am iacháu cymdeithas ag am iacháu unigolion;
am gyfiawnder lawn cymaint â rhyddid;
sy'n wynebu'n broffwydol wreiddiau anghyfiawnder
cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd.
Arglwydd deled dy deyrnas
Gwneler dy ewyllys.

Yn olaf, gadewch i ni weddïo am eglwys
sydd yn deulu'r ffydd, sydd yn agored i'w gilydd,
yn gofalu am ei gilydd ac yn rhannu â'i gilydd;
lle mae pawb yn cael eu cofleidio, eu derbyn a'u cadarnhau;
cymuned o dan farn
sydd yn ceisio byw gyda'r hyn y mae'n ei gyhoeddi,
ac sydd felly'n gwir garu'r hyn y mae'r Arglwydd yn ei orchymyn
ac yn chwennych ei addewid.
Arglwydd deled dy deyrnas
Gwneler dy ewyllys.

Am bopeth y gall Duw ei wneud ynom ni;
am bopeth y gall Duw ei wneud hebom ni:
Diolch a fo i Dduw.
Am bawb y bu Duw fyw ynddynt o'n blaen ni ;
am bawb y mae Crist yn byw ynddynt ochr yn ochr â ni:
Diolch a fo i Dduw.
Am bob peth y mae'r Ysbryd am ei roi i ni;
am y mannau hynny y mae'r Ysbryd am ein hanfon ni iddynt:
Diolch a fo i Dduw. Amen.


Gweddi Esgobaeth Bangor, Dathlu 1450 Mlynedd, Pentecost 1996

Dduw ein Tad, clywsom am rym dy ras yn nyddiau Deiniol
ac yn oes y Saint,
pan ddygwyd dy bobl di a oedd yn bell i ffwrdd atat ti yn Iesu Grist.
O Arglwydd adfywia dy waith yn ein cyfnod ninnau,
adnewydda ynom ffydd, gobaith a chariad,
a chaniatâ y gwreiddir yr hyn yr ydym a'r hyn a wnawn
mewn addoliad cyson a bywiol.
Tyrd Ysbryd Glân o'r pedwar gwynt,
anadla ar esgyrn sychion ein crefydd,
ysbrydola ni i ddisgwyl ac i fentro gwneud pethau mawr yn ein dydd
a llunia ni o'r newydd i fod yn dystion gwir a pharod
i Efengyl ogoneddus ein Harglwydd a'n Gwaredwr Iesu Grist.
Amen.


Arglwydd helpa ni i newid,
i newid ein hunain, ac i newid ein byd;
i fod yn ymwybodol bod angen newid, i ddelio gyda'r boen o newid, i deimlo'r llawenydd o newid;
i ymgymryd â'r daith heb amgyffred y pen draw,
cyfrinach chwyldro graddol. Amen.

- Michael Leunig


Dragwyddol Dduw, mynegaist yng Nghrist
gyflawnder dy bwrpas cariadus.
Bydded i ni fyw trwy ffydd, gerdded mewn gobaith a chael ein hadnewyddu mewn cariad,
nes bod y byd yn adlewyrchu dy ogoniant ac y byddi di'n oll yn oll.
Bydded felly, Tyrd Arglwydd Iesu! Amen.