GWEINIDOGAETH DARLLENYDD
Pob dydd Sul, ar hyd a lled yr esgobaeth gwelir tua 80 o wŷr a gwragedd yn gwisgo sgarff las dros wenwisg a chasog yn arwain gwasanaethau, yn gweddïo a phregethu. Darllenwyr Trwyddedig yr Eglwys yng Nghymru ydyn nhw. Darllenwyr, gan mai gweinidogaeth lafar sydd ganddynt yn bennaf, ddarllen ac addysgu Gair Duw. Trwyddedig gan fod ganddynt awdurdod ysgrifenedig gan yr Esgob i gyflawni eu gweinidogaeth.
Pwy ydyn nhw?
Maent yn gysylltiedig â phlwyf arbennig, a chydag offeiriad y plwyf hwnnw rhannant y gwasanaethau ac addoliad cyhoeddus. Er enghraifft, gallant gynnal Boreol Weddi ar eu pennau eu hunain, arwain Gweinidogaeth y Gair yn yr Ewcarist, neu bregethu. Pan fo un offeiriad yn gyfrifol am nifer o eglwysi gallant fod yn gysylltiedig ag un eglwys benodol neu fod yn rhan o'r Ddeoniaeth a chymryd gwasanaeth mewn unrhyw un o eglwysi'r Ddeoniaeth. Ni allant weinyddu unrhyw sacrament fel y gall offeiriad, er enghraifft y Gollyngdod na'r Fendith. Ni allant sancteiddio bara a gwin y Cymun, ond gyda thrwydded ychwanegol fe allant weinyddu'r Cwpan. Nid ydynt chwaith yn bedyddio, ond gall rhai gladdu ar gais arbennig.
Mae nifer a Ddarllenwyr yn defnyddio eu hamser a'u doniau i rannu yng ngwaith y gynulleidfa gyfan: gallant gynorthwyo gydag ymweld yn y plwyf, gweinyddu Cymun i'r claf, cynorthwyo gyda'r Ysgol Sul neu grwpiau astudio. Er eu bod yn cael eu cydnabod yn rhan o'r tîm gweinidogaeth, fe'u gwelir hefyd yn aelodau lleyg gweithgar. Nid dirprwy offeiriaid mohonynt er bod ambell un yn mynd ymlaen i gael eu hordeinio, mae'r rhan fwyaf yn cael boddhad yn y weinidogaeth y'i gelwir iddi.
Sut maen nhw'n dod yn Ddarllenwyr?
Gall offeiriad neu'r plwyfolion adnabod darpar Darllenydd a gwneud yr awgrymiad dechreuol neu gall unigolion deimlo yn eu calon i gynnig eu hunain. Wedi meddwl a gweddïo dros y mater, cynigir eu henwau gan y CPE i Banel Dethol yr Esgobaeth. Pan welir fod yr alwad yn un dilys a bod yr ymgeiswyr yn deall ac yn barod i ymgymryd â'r gwaith sy'n eu hwynebu, dechreuir ar gwrs dwy flynedd a ddosbarthiadau min nos sy'n cynnwys darllen, cyflwyno gwaith ysgrifenedig a llafar yn ogystal a gwaith ymarferol. Ar y cwrs hefyd bydd aelodau sy'n ceisio ehangu eu dealltwriaeth o'u ffydd; mae'n waith caled, ond yn werth chweil. O'r diwedd, bydd y Darllenwyr newydd yn derbyn eu trwyddedau ar Ddydd y Darllenwyr a gynhelir yn flynyddol.

