Masnach Deg
Mae tros dwy ran o dair o eglwysi Esgobath Bangor wedi arwyddo cytundeb i ddefnyddio dim ond nwyddau sydd wedi eu masnachu'n deg ym mhob cyfarfod eglwysig. Golyga hyn mai esgobaeth Bangor yw'r esgobaeth gyntaf yn yr Eglwys yng Nghymru i ddod yn Esgobaeth Masnach Deg.
Mae'r esgobaeth yn annog pob pwyllgor, plwyf ac eglwys, fel rhan o'u cenhadaeth, i sicrhau defnydd helaeth o nwyddau masnach deg ym mhob digwyddiad a chyfarfod , a thrwy ymchwil pellach i ddatblygu eu gwybodaeth am fasnach gyfiawn.
Mae dros 250 o nwyddau Masnach Deg ar gael, yn cynnwys, coffi, te, ffrwythau, llysiau, siocled, coco, sudd, siwgr, mêl a gwin.

