To Church in Wales home page

Esgobaeth
Bangor

Gwybodaeth o'r adrannau:

Cyfrifoldeb Cymdeithasol

Mae byw yn y gymdeithas sy’n bodoli heddiw, gyda mynediad rhwydd i wybodaeth a phroblemau byd‑eang, yn codi llawer o faterion i’r Cristion ynglŷn â’u ffordd o fyw. Mae’r Adran Cyfrifoldeb Cymdeithasol yn ceisio taflu goleuni ar ein ffordd o fyw fel Cristnogion o fewn yr Eglwys a’r gymdeithas, a hefyd i gasglu a dosbarthu gwybodaeth ac arbenigedd i’n cynorthwyo i fyw bywyd Cristnogol ymroddedig bob dydd.

Cadeirir yr Adran gan yr Archddiacon Alun Hawkins, a’r Swyddog Cyfrifoldeb Cymdeithasol yw’r Barchedig Ganon Madalaine Brady. Mae gwahanol aelodau’r Adran yn cynrychioli gwahanol ddiddordebau, gan gynnwys Cymorth Cristnogol, Masnach Deg, Undeb y Mamau, a grwpiau Ecoleg a Chadwraeth.

Rydym yn ymgyrchu ar hyn o bryd ym maes Masnach Deg a Masnach Gyfiawn. Gobeithiwn y bydd Esgobaeth Bangor wedi derbyn statws Esgobaeth Masnach Deg erbyn Hydref 2004, ac rydym yn annog y plwyfi i ddefnyddio nwyddau Masnach Deg ac i hyrwyddo Masnach Deg fel rhan o’r ymgyrch hwn.

Mae‘r Adran Cyfrifoldeb Cymdeithasol yn cynnwys y Sector Twristiaeth, Cydlynydd Gweithredu ac Estyn Allan Undeb y Mamau, grŵp sy’n cydlynu caplaniaeth yn y gweithle o fewn yr esgobaeth, a grŵp sy’n ymwneud â Materion Gwledig.

Rydym hefyd yn cefnogi ac yn annog pobl i gymryd rhan mewn, a chael profiad o bob agwedd o ryngweithio cymdeithasol ac rydym yn creu rhwydwaith o arbenigwyr mewn gwahanol feysydd, e.e. gweinidogaeth hosbis, gweinidogaeth ar stadau tai ac yn y blaen. Bydd yr wybodaeth a’r arbenigedd a geir ar gael i eraill sydd yn yr un amgylchiadau.

Gellir trefnu i siaradwyr ddod i annerch grwpiau ar bob agwedd o Gyfrifoldeb Cymdeithasol Cristnogol.