To Church in Wales home page

Esgobaeth
Bangor

gwybodaeth ychwanegol

Pe carech dderbyn gwybodaeth ychwanegol am ein Hapêl neu am ein cynlluniau ar gyfer Organ y Gedeirlan, os gwelwch yn dda cysylltwch â:

Mr Martin Brown
Clerc y Cabidwl a Gweinyddwr y Gadeirlan
Swyddfa'r Esgobaeth
Clos y Gadeirlan
BANGOR
LL57 1RL

Rhif Ffôn: 01248 353983
martinbrown@churchinwales.org.uk

Sponsor an Organ Pipe

4,000 o bibau ar gael £15 - £1,000

Yr ydym eisoes wedi codi dros £100,000 tuag at adnewyddu organ odidog William Hill yn Eglwys Gadeiriol Bangor, yr organ bib fwyaf yng Nghymru, diolch i lafur caled a chyfraniadau caredig cymaint o bobl. Y mae'r organ yn rhan hanfodol o etifeddiaeth ysbrydol a diwylliannol Cymru.

Adnewyddwyd yr organ ddiwethaf yn 1954 gan John Compton, a byth er hynny y mae wedi cael ei defnyddio'n feunyddiol ar gyfer gwasanaethau, cyngherddau ac i ddibenion hyfforddi. Y mae'r defnyddio parhaus hwn wedi achosi traul mawr arni ac ar 31 Gorffennaf 2001 trowyd trydan yr organ i ffwrdd rhag digwydd niwed anadferadwy iddi.

organ pipesFodd bynnag, y mae cynlluniau ar gyfer yr adnewyddu ar y gweill ac yn awr y mae arnom angen ymdrech derfynol er mwyn i ni allu clywed swn gogoneddus organ y Gadeirlan unwaith eto. I'n cynorthwyo ar ymglais olaf yr Apêl yr ydym yn gwahodd unigolion, teuluoedd a chwmnïau i noddi un o bibau'r organ.

Ar ol ei hatgyweirio bydd gan yr organ tua 4,000 o bibau, yn amrywio o ran maint o 1/8 modfedd I 32 troedfedd. Bydd iddynt amrywiol ffurf a maint, wedi eu gwneud o fetel ac o bren.

Gellir noddi un bib am cyn lleied â £15

Bydd set gyfan, h.y. un stop sy'n cynnwys 58 o bibau yn costio £,1000

Os ydych yn dymuno cyfrannu trwy gymorth rodd os gwelwch yn dda nodwch hynny ar y ffurflen gais. Bydd hyn yn caniatau i'r Gadeirlan hawlio 28c am bob punt a roddwch oddi ar y Cyllid Gwladol.

Bydd y Cefnogwyr i gyd yn derbyn tystysgrif, ac mewn llyfr ar gyfer y dyfodol rhestrir eu henwau gyferbyn â'r bib arbennig a noddwyd ganddynt. Gallai hyn fod yn anrheg ddelfrydol I blentyn neu ŵyr, neu er cof am rywun.