Hanes
Oddeutu'r flwyddyn 530oc sefydlodd gŵr o uchel dras o'r enw Deiniol ar y llecyn hwn.
Wedi cael tir, yn ôl pob tebyg gan Faelgwn, brenin Gwynedd, amgylchynodd ef â ffens wedi ei llunio trwy yrru polion ar eu pennau i'r ddaear a phlethu canghennau rhyngddynt. Term technegol y brodorion am y math hwn o ffens oedd 'bangor'. Ar y llecyn amgaeëdig hwn adeiladodd Deiniol ei eglwys.
Cododd ef a'i ddilynwyr gabanau neu gelloedd i fyw ynddynt. Cenhadon oeddent, yn mynd oddi amgylch i efengylu ac annog eraill i ymuno â hwy. Byddai pawb a ddeuai, yn unigolion a theuluoedd, yn codi cell i fyw ynddi, a phawb yn cydaddoli yn yr eglwys fechan. Dyna sut y tyfodd y fynachlog Geltaidd, neu'r Clas.

Fel y digwydd ambell waith, trosglwyddwyd y gair 'bangor' o'i ystyr wreiddiol - yma y ffens - i'r hyn oedd yn gysylltiedig â hi - y sefydliad oddi mewn. Dyna sut y cafodd Bangor ei henw.

