To Church in Wales home page

Esgobaeth
Bangor

 

 

Y CÔr

Pan ymwelodd Dafydd ap Gwilym â Bangor, ganol y bedwaredd ganrif ar ddeg, yr hyn a'i trawodd oedd tant côr heb atynt â'u cân:

am y côr,
nid oes neb a all ganu'n debyg iddynt

Yn affodus dyna'r cyfan a wyddom am y côr hyd ddau can mlynedd yn ddiweddarach, pan sefydlwyd Ysgol Ramadeg ym Mangor yn 1557, Ysgol Friars.

Yn ei ewyllys trefnodd Geoffrey Glyn, sefydlydd yr ysgol, fod deg disgybl tlawd i dderbyn £2 yr un bob blwyddyn, ac yr oedd statudau'r ysgol yn gorchymyn eu bod i wisgo gwenwisg pan fyddent yn mynychu'r Eglwys Gadeiriol ar y Suliau a'r gwyliau. Nid yw'n glir a oeddent i weithredu fel cantorion, ond gan eu bod yn eu gwenwisgoedd byddai'n naturiol wneud iddynt ganu. Penodwyd y gwr canu cyntaf (fel y gelwid hwy bryd hynny) yn 1689. O 1691 ymlaen yr oedd dau ohonynt, yn derbyn tâl blynyddol o £6, ac yn 1698 codwyd y nifer i bedwar a'r cyflog i £8.

choir

Yn 1691 penderfynwyd fod disgyblion Friars a oedd yn canu yn y côr i gael eu galw 'bechgyn canu' ac i dderbyn tâl o gronfa'r Eglwys Gadeiriol. Byddent yn ymarfer ddwywaith yr wythnos, ar ddyd Iau a dydd Sadwrn. Caent weddill eu haddysg yn Ysgol Friars gan ddilyn cyrsiau mewn Lladin a Groeg, yn ôl gofynion statudau siartr Elisabeth.

Yn awr y mae, ar gyfartaledd, ugain bachgen yn y côr, wedi eu dewis o ysgolion cynradd lleol, a bydd rhai'n teithio amryw filltiroedd i ddod i'r ymarferiadau a'r gwasanaethau. Daw'r dynion sydd yn y côr o lawer cefndir a gyrfa, ac yn ystod y tymor ychwanegir at eu nifer gan fyfyrwyr o'r Brifysgol.