Atgyweirio'r 19 Ganrif
Cynyddodd poblogaeth Bangor yn gyflym ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gwnaed sawl ymdrech i gael mwy o le i eistedd yn yr Eglwys Gadeiriol, a hefyd i ddarparu ar gyfer y mewnlifiad Saesneg ei iaith. Comisiynodd James Vincent, Deon Bangor 1862 - 76, Syr George Gilbert Scott, prif bensaer y dydd, i wneud atgyweiriad sylfaenol. Yn ôl disgrifiad Scott ei hun, y mae'r cynllun a ddewisodd yn wahanol i'r ymdriniaeth draddodiadol a gymeradwyai fel arfer.

Ar ei gyngor ef penderfynwyd adfer, neu ail-greu'n rhannol, y côr, y breichiau a'r cabidyldy 'yn y cyfryw arddull ag a amlygir gan yr ychydig ddarnau sy'n aros'. Darganfu ddigon o weddillion rhannau isaf colofnau, capanau colofnau a bwâu croes-eglwys y bedwaredd ganrif ar ddeg i allu atgynhyrchu croes-eglwys y cyfnod hwnnw; digon o weddillion fframiau a rhwyllwaith ffenestri i allu adfer ffenestri'r breichiau fel yr oeddent yn nyddiau esgob Anian; a digon o ddarnau carreg i allu atgynhyrchu bwtresi'r bedwaredd ganrif ar ddeg ar y fraich ddeheuol a'r pen dwyreiniol.
Ni lwyddodd Scott i godi dim ond stwmpyn o dwr canolog, rhyw ddeunaw modfedd yn uwch na lefel brig y to, gan obeithio y byddai arian ar gael yn y dyfodol i gwblhau ei gynllun ef. Pan gafwyd yr arian, ym mhumdegau'r ganrif hon, yr oedd peirianwyr yn amheus a ellid adeiladu hyd yn oed addasiad o'r meindwr am fod y tir yn ymsuddo.
Yn 1966-67 cwblhawyd stwmpyn twr Scott drwy ychwanegu mur caerog, cap pyramid a cheiliog gwynt tal.

