To Church in Wales home page

Esgobaeth
Bangor

Ynghylch archwilio ffydd


    Addysg yw Archwilio Ffydd ar gyfer y Cwrs Disgyblaeth, i bobl ddysgu mwy am eu ffydd yn ogystal â hyfforddi ar gyfer gweinidogaethau achrededig.

    Mae’r grwpiau hyn ar gyfer Cristnogion chwilfrydig sydd eisiau dysgu mwy am eu ffydd. Maent yn cyfarfod mewn lleoedd bob dydd megis tai pobl neu neuaddau cymuned. Mae pob grŵp yn cynnwys hyd at ddwsin o bobl. Deuant at ei gilydd unwaith yr wythnos i drafod ychydig o benodau o destun gosodedig. Mae gan bob grŵp hyrwyddwr. Nid athro yw’r unigolyn hwn – rhan o’r syniad o Archwilio Ffydd yw bod aelodau’r grŵp yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn rhannu eu gwahanol brofiadau. Unwaith y tymor daw holl aelodau Archwilio Ffydd at ei gilydd ar gyfer Ysgol Sadwrn.

    Nid yw Archwilio Ffydd yn ddrud: ceir cost fechan yn unig am y llyfrau astudio tymhorol.

    Mae grwpiau newydd Archwilio Ffydd yn cael eu sefydlu drwy’r amser. Mae’n hawdd iawn sefydlu cwrs ar gyfer eich cymuned; mae Archwilio Ffydd yn dilyn maes llafur. Torrir y maes llafur i lawr yn dri chylch blynyddol. Mae pob modiwl yn cynnwys testunau gosodedig a darperir awgrymiadau darllen pellach mewn llyfryddiaethau. Gall rhai o’r llyfrau hyn fod ar gael yn eich cymuned, er enghraifft gan eich gweinidog. Gellir cael llyfrau eraill drwy lyfrgelloedd lleol neu eu prynu’n ail law dros y rhyngrwyd. Ceir adnoddau darllen mwy sylweddol ym Mangor ei hun. Mae gan Canolfan St Seiriol ei lyfrgell fenthyca ei hun wedi ei lleoli yn y Gaplaniaeth Anglicanaidd i Brifysgol Bangor. Gall aelodau Archwilio Ffydd hefyd ddefnyddio llyfrau sy’n perthyn i’r Brifysgol ei hun.

    Cliciwch yma i ymweld â Llyfrgell y Brifysgol.

    Mae cyrsiau Archwilio Ffydd yn amcanu i gyfarfod lle rydych chi. Ceir 13 grŵp ar hyn o bryd sy’n cyfarfod drwy Ogledd Orllewin Cymru, yn cynnwys dros 60 o bobl. Bydd y map hwn yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i’r grŵp Archwilio Ffydd agosaf atoch a manylion cyswllt ei hyrwyddwr. Dewch i gysylltiad â hwy i ddarganfod mwy!

    Cliciwch yma i lawrlwytho manylion eich 'Grŵp Archwilio Ffydd' agosaf (llwytho i lawr pdf)

    Neu,

    Cliciwch yma i ddarganfod sut i gael atom:
    Y Gaplaniaeth Anglicanaidd
    Ffordd y Tywysog /Princes Road
    Bangor LL57 2BD
    01248 370 566



    Pe baech yn dymuno cael mwy o wybodaeth mewn perthynas â’r Rhaglen archwilio Ffydd, cysylltwch â:

    Y Parchedig Ganon Cyswllt Dr Sue Jones am fwy o fanylion ar:

    Ffôn: (01248) 355530
    ebost: sjones1234jones@btinternet.com