To Church in Wales home page

Esgobaeth
Bangor

llyfrgell

Mae gan Canolfan St Seiriol ei lyfrgell ei hun, a rennir gyda defnyddwyr y Gaplaniaeth Anglicanaidd i Brifysgol Bangor.

Nid yw’r Gaplaniaeth yn adeilad hawsaf ar gyfer yr ymwelydd anghyfarwydd! Cliciwch yma am gyfarwyddiadau i’r Gaplaniaeth a chynllun o’r safle. Mae mynediad cyhoeddus y Gaplaniaeth i lawr ar ochr chwith y capel. Dylai defnyddwyr Llyfrgell wedyn ddilyn yr arwyddion i’r ystafell fwyta.

Mae’r Llyfrgell yn cynnwys 2000 o gyfrolau ac mae ar agor o 9yb hyd 9yh yn ystod amser tymor (oriau llai yn ystod gwyliau’r Brifysgol). Gellir arwyddo llyfrau allan ar sail gonestrwydd gan ddefnyddio’r gofrestr fenthyca A5.ddu.

Ceir cyfrifiadur yn llyfrgell y Gaplaniaeth lle gellwch chwilio am y llyfr y mae arnoch ei eisiau. Gellwch hefyd lawrlwytho pdf au y catalog drwy:

- Awdur [llwytho i lawr pdf]

- Teitl llyfr [llwytho i lawr pdf]
- Côd [llwytho i lawr pdf]

Polisi prynu’r Llyfrgell yw prynu llyfrau sydd i’w canfod ar lyfryddiaethau Archwilio Ffydd ac ar restr ddarllen alwedigaethol Warden Ordinandiaid yr Esgobaeth. Croesewir rhoddion o lyfrau, a dylid eu gadael yn y blwch wedi ei nodi yn y llyfrgell. Bydd yn rhaid asesu rhoddion yn erbyn lle silffoedd ac anghenion ein darllenwyr, fel ag os na fydd ar roddwyr eisiau i lyfrau nad oes arnynt eu heisiau gael eu gwaredu, dylent adael manylion cyswllt i ni gael yn ôl atoch.



Am fwy o fanylion am y llyfrgell, cysylltwch â’r:
Parchedig Kenneth Padley ar 01248 370566;
neu ebostiwch: k.padley@bangor.ac.uk