Hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth

Drwy Archwilio Ffydd mae llawer o bobl wedi canfod Duw yn eu galw i ryw ffurf o weinidogaeth yn eu heglwys. Mae MINICAB yma i gynorthwyo. Wedi cwrdd â meini prawf dethol eu henwad a thrwy ymgymryd â gwaith ysgrifenedig sy’n seiliedig ar fodiwlau Archwilio Ffydd, gall unigolion fynd ymlaen i weinidogaeth drwyddedig fel Darllenwyr Anglicanaidd, neu glerigion ordeiniedig yn yr Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Fethodistaidd. Dylai Anglicaniaid sy’n ystyried galwad i Weinidogaeth Darllenwyr neu’r offeiriadaeth drafod hynny gyda’u Ficer yn y lle cyntaf. Gall aelodau o Brifysgol Bangor hefyd fanteisio ar Grŵp Galwedigaethol Prifysgol y Gaplaniaeth Anglicanaidd sy’n tynnu at ei gilydd aelodau’r brifysgol sy’n ystyried a yw Duw’n eu galw tuag at weinidogaeth broffesiynol yn y cyd-destun Anglicanaidd.Wedi eich galw i’r Weinidogaeth Ordeiniedig? A all fod yn wir a beth a ddylwn ei wneud ynghylch hynny? (llwytho i lawr pdf)
Erthygl fer yw hon ar y modd y mae’r Eglwys yng Nghymru yn cynorthwyo pobl i ganfod a ydynt yn cael eu galw i weinidogaeth Ordeiniedig a’r modd y mae’n dethol, yn hyfforddi, ac yn trefnu ei chlerigion.

