GWADD (Rhoddi drwy Ddebyd Uniongyrchol)
Cynllun debyd uniongyrchol yr eglwys yng nghymru
- A oes rhaid imi fod yn talu treth i ddefnyddio’r cynllun hwn?
- Nac oes. Gallwch ddewis cyfrannu drwy Ddebyd Uniongyrchol a’n cyfarwyddo i beidio â hawlio’r dreth. Os felly, dylech nodi hynny’n glir ar eich ffurflen.
- A oes rhaid imi roi cyfarwyddyd i’m banc?
- Dim ond os buoch yn cyfrannu drwy Orchymyn Sefydlog. (Bydd yn rhaid ichwi ganslo’r Gorchymyn Sefydlog neu bydd dau swm yn cael eu tynnu o’ch cyfrif). Dylech roi gwybod i Swyddfa’r Dalaith am unrhyw newidiadau ar ôl ichwi gwblhau’r ffurflenni Debyd Uniongyrchol.
- A allaf barhau i wneud cyfraniadau uniongyrchol i’m plwyf?
- Os mynnwch, gallwch wneud cyfraniadau i’ch plwyf drwy Orchymyn Sefydlog, amlen wythnosol neu siec. Os yw’r Rhoddion hyn i elwa ar y dreth, bydd arnoch angen llenwi Datganiad Cymorth Rhodd i’ch plwyf. Dylech drafod hyn gydag Ysgrifennydd Cymorth Rhodd y plwyf.
- Sut y bydd Ysgrifennydd Cymorth Rhodd y plwyf yn gwybod fy mod yn gwneud cyfraniadau i’r plwyf?
- Y mae Swyddfa’r Dalaith yn rhoi gwybod bob mis i Ysgrifenyddion Cymorth Rhodd pa gyfraniadau ac adenillion treth a dalwyd i gyfrif y plwyf, a phwy a wnaeth y cyfraniadau hynny.
- A all gŵr a gwraig ddefnyddio’r cynllun hwn?
- Gall gŵr a gwraig ddefnyddio’r cynllun os yw’r ddau ohonynt yn talu treth. Fodd bynnag, bydd angen iddynt wneud ymrwymiad unigol i Gwadd, hyd yn oed os cesglir y cyfraniadau o un cyfrif banc. Ni all Yr Eglwys yng Nghymru dderbyn ymrwymiad ar y cyd i Gwadd.
- Sut y gallaf gynyddu neu leihau fy nghyfraniad?
- Y cwbl sydd rhaid ei wneud yw ysgrifennu at Swyddfa’r Dalaith gan nodi eich cyfeirnod Gwadd. Eich cyfraniad chwi yw hwn, a gallwch ei newid fel y mynnwch. Chwi, bob amser, sy’n rheoli.
- Beth os byddaf yn newid plwyf?
- Os byddwch yn newid plwyf ac yn dymuno i’ch cyfraniadau fynd i’r plwyf newydd, ysgrifennwch at Swyddfa’r Dalaith gan nodi eich cyfeirnod Gwadd.
- Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn peidio â thalu treth?
- Dylech ysgrifennu ar unwaith at Swyddfa’r Dalaith. Mater i chwi yw penderfynu a ydych am ganslo’r Debyd Uniongyrchol neu ynteu gyfarwyddo Swyddfa’r Dalaith i beidio â hawlio’r dreth.
- Sut y gallaf newid fy nghyfraniad misol?
- Rhowch wybod i Swyddfa’r Dalaith beth yw’r swm newydd yr ydych yn dymuno ei gyfrannu. Gallwch ddewis cynyddu eich cyfraniad yn flynyddol yn unol â’r Mynegrif Prisiau Adwerthol. Os dewiswch hyn, fe fyddwn yn ysgrifennu atoch bob tro cyn i’r swm newydd gael ei dynnu o’ch cyfrif. Chwi, bob amser, sy’n rheoli.
- A allaf wneud fy nghyfraniadau Gwadd drwy Orchymyn Sefydlog?
- Na allwch. Cynllun Debyd Uniongyrchol yw cynllun Gwadd. Felly, yn anffodus, ni all dderbyn cyfraniadau drwy Orchymyn Sefydlog.

