To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

 

Eiddo

eglwysMae’r adran eiddo yn seiliedig yn y Swyddfeydd Taleithiol yn 39 Heol y Gadeirlan, Caerdydd ac mae’n gyfrifol am brynu, gwerthu a rheoli persondai, adeiladau eglwys, neuaddau eglwys a darnau eraill o dir.

Mae hefyd yn gyfrifol am ddarparu cyngor i blwyfi ar edrych ar ôl adeiladau eglwysi a mynwentydd, yn arbennig pan fo hynny yn galw am gydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth (megis y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a gofynion eraill iechyd a diogelwch).

Medrir cysylltu â’r adran yn: property@churchinwales.org.uk

Canllawiau a dogfennau polisi

Mae nifer o ganllawiau a dogfennau polisi ar gael i’w lawrlwytho.

Maent i gyd mewn fformat MS Word (.doc) ac yn amrywio rhwng 50 a 300k mewn maint. Cysylltwch â’r gwefeistr os ydych angen y dogfennau mewn fformat arall.

ffurflenni