To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Lawrlwytho Taenlenni

Cliciwch ar y dolennau a ganlyn i lawrlwytho taenlenni. Ar hyn o bryd nid yw’r taenlenni ar gael ond yn Saesneg.

Cyfrifon Derbyniadau
a Thaliadau

Cyfrifon Plwyf Syml - Copi Papur
Nid yw’r taenlenni hyn yn rhyngweithiol ac fe’u bwriedir i’w hargraffu ar bapur.

Cyfrifon Plwyf Syml
(hyd at £25,000)

Mae gan y rhan fwyaf o Gyfrifon Plwyfi drosiant o lai na £25,000. Nid yw hynny’n rhwystro plwyfi â chanddynt drosiant ychydig yn fwy rhag defnyddio’r taenlenni. Mae’r taenlenni hyn yn y ffurf symlaf ond y maent yn rhyngweithiol, sy’n golygu bod y ffigyrau’n rhaeadru i lawr o’r naill set o daenlenni i’r llall.

Cyfrifon Plwyf mwy manwl
(hyd at £249,999)

Mae’r taenlenni hyn yn rhoi dadansoddiad manylach o wariant ac incwm ond yn dilyn yr un egwyddor o raeadru â’r cyfrifon plwyf syml. Cynlluniwyd y rhain at gyfrifo derbyniadau a thaliadau yn unig.

Cyfrifo Croniadau

Cyfrifon Manwl o Groniadau Plwyf
Y raddfa bresennol o groniadau yw £250,000 ond fe’i cynyddwyd yn ddiweddar o £100,000 ac fe all y bydd gan rai plwyfi drosiant o rhwng £100,000 a £250,000 sy’n golygu y bydd yn rhaid iddynt ddal i gyfrifo yn ôl y dull croniadau.

Cysylltu â ni

David Holloman
davidholloman@churchinwales.org.uk Tel: 029 2034 8200

Louise Davies
louisedavies@churchinwales.org.uk
Tel: 029 2034 8200

Ffurflen Gyfrifon Safonol i Blwyfi

Yn dilyn ymgynghori â’r plwyfi a chymeradwyaeth yr Esgobaethau a Chorff y Cynrychiolwyr, cynigir Ffurflen Gyfrifon Safonol i Blwyfi o 1 Ionawr 2010.

Gellir gweld canlyniadau’r ymgynghoriad yma.

Dylai’r detholiad atodedig o daenlenni fod yn ddigonol ar gyfer cyfrifon plwyfi y mae iddynt wahanol raddfeydd o incwm, ac fe’i bwriedir fel arweiniad.

Dylai’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon gydymffurfio â’r Rheoliadau Cyfrifo a draethir yn y Cyfansoddiad.

Y mae ar y taenlenni mwy cymhleth golofnau ychwanegol y gellir eu defnyddio neu beidio ac, mewn rhai achosion, fe all y bydd plwyfi am eu defnyddio at ryw bwrpas plwyfol gwahanol i’r un y maent yn ei ddangos.

Cynnwys pob set o daenlenni gyngor ar gwblhau’r ffurflenni, patrwm o’r ffurflen safonol, patrwm a awgrymwyd ar gyfer yr adroddiad blynyddol a phatrwm yr adroddiad ariannol blynyddol.

Anfonwyd set seml o daenlenni at bob Trysorydd Plwyf. Gyda’r taenlenni hyn fe amgaewyd llythyr y gellir ei lawrlwytho yma.

Fe all y tabl a ganlyn fod o gymorth i chwi benderfynu pa set o daenlenni yr ydych am eu defnyddio.

Trothwyon Incwm Cyfredol Cyfrifon derbyniadau a thaliadau Cyfrifon croniadau Archwiliad allanol o’r cyfrifon Cofrestru â’r Comisiwn Elusennau a chyflwyno copi o’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon
Hyd at £100k Ie Na Archwiliad annibynnol Na
£100k i £250k Ie Na* Archwiliad Annibynnol Ie
Dros £250k Na Ie Archwiliad Ie

*Os oes gan y Plwyf eisoes gyfrifon croniadau, ewch ymlaen ar y sail honno.

 

Rhaid i'r holl hyfrifon Plwyf:

  • gydymffurfio â’r Ymarfer Safonol a Argymhellir (SORP)
  • fod ar gael i’w harchwilio gan yr Archddiaconiaid
  • gael eu cadw gyda phob cofnod o gyfrifon am 6 blyn
  • fod ar gael i’r cyhoedd os gofynnir amdanynt.