Gweinyddu’r Cymun Bendigaid yn ystod Pandemig o’r Ffliw
Oherwydd y pryder presennol ynglŷn â Ffliw’r Moch, awgrymir bod plwyfi, wrth rannu’r Cymun Bendigaid, yn gweithredu gweithdrefnau rheoli heintio, yn unol â chyngor y Llywodraeth. Y mae’r cyngor llawn i’w weld ar www.communities.gov.uk
Y Bara Cysegredig
Mae cyngor y Llywodraeth yn rhagweld y bydd rhannu’r bara cysegredig yn y Cymun Bendigaid yn parhau yn ystod pandemig o’r ffliw, ond noda na ddylid ei osod ar y tafod. Rhaid gofalu na fydd bysedd y sawl sy’n rhannu’r bara yn cyffwrdd â dwylo’r cymunwyr. Dylid mabwysiadu safonau uchel o hylendid dwylo (sebon a dŵr poeth a/neu gel alcohol).
Y Cwpan
Os bydd pandemig o’r ffliw yn taro canolfannau poblog, cyngor y Llywodraeth yw peidio â gweinyddu’r cwpan cyffredin nes i’r perygl fynd heibio. Yr offeiriad yn unig ddylai dderbyn y bara a’r gwin.
Er mai derbyn y bara a’r gwin yw’r arfer yn yr Eglwys yng Nghymru, derbynnir y sacrament yn ei gyflawnder wrth dderbyn y bara yn unig.
Awgrymodd rhai ei bod yn dderbyniol gwlychu’r bara yn y gwin yn lle rhannu’r cwpan. Dangosodd astudiaethau y gall hynny, mewn gwirionedd, fod yn beryclach. At ei gilydd, y mae’r bysedd yn fwy heintus na’r gwefusau. Felly, wrth i un a heintiwyd gymryd y bara yn ei law ac yna ei wlychu yn y gwin cysegredig, y mae perygl heintio’r gwin. Gall y bysedd hefyd fynd i’r gwin. Dyna pam yr argymhellir gweinyddu’r bara yn unig.

